Arestio dyn o'r gogledd ar amheuaeth o ddosbarthu ffilmiau Hollywood sydd heb eu rhyddhau
Mae dyn o ogledd Cymru wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ddosbarthu ffilmiau Hollywood sydd heb eu rhyddhau ar-lein.
Cafodd y dyn 47 oed ei arestio ar amheuaeth o droseddau hawlfraint yn ei dŷ ym Mhenmaenmawr ger Conwy ar 29 Ebrill gan swyddogion Heddlu Dinas Llundain.
Mae wedi ei amau o gael gafael ar filoedd o ffilmiau, cyfresi teledu a chaneuon heb drwydded na chaniatâd gan berchnogion hawlfraint a'u dosbarthu trwy wefan, yn ôl yr heddlu.
Ymysg y ffilmiau oedd dwy ffilm Hollywood a gafodd eu dosbarthu cyn eu bod nhw wedi eu rhyddhau'n swyddogol.
Fe wnaeth swyddogion gau'r wefan a chymryd dau gliniadur a sawl gyriant caled (hard drive) ar gyfer ymchwiliad pellach.
Cafodd sawl disg eu cymryd gan y llu hefyd.
Cafodd y dyn ei arestio wedi ymchwiliad ar y cyd gan Uned Troseddau Eiddo Deallusol Heddlu Dinas Llundain a'r Motion Picture Association.
Mae'r dyn 47 oed wedi cael ei ryddhau dan ymchwiliad.
Dywedodd y Cwnstabl Jason Theobald o Heddlu Dinas Llundain bod arestio'r dyn yn "rhybudd i unrhyw un sydd yn meddwl uwchlwytho deunydd hawlfraint i wefannau.
"Mae'n drosedd sydd yn tynnu arian i ffwrdd o'r diwydiannau creadigol, cyllid sydd nid yn unig yn cefnogi artistiaid ond hefyd miloedd o staff sydd yn cefnogi'r sector.
“Amcangyfrifir bod y math yma o weithred droseddol yn cyfrannu at 86,000 o swyddi'n cael eu colli bob blwyddyn yn unig. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, i gymryd camau yn erbyn y rhai sy’n troseddu."