Newyddion S4C

Tŷ Mawr Wybrnant: Buddsoddiad yn rhoi 'ail fywyd' i'r safle hanesyddol

Newyddion S4C

Tŷ Mawr Wybrnant: Buddsoddiad yn rhoi 'ail fywyd' i'r safle hanesyddol

Mae buddsoddiad newydd yn Nhŷ Mawr Wybrnant yn cynnig "ail fywyd" i’r ffermdy sy’n un o safleoedd hanesyddol pwysicaf Cymru.

Yno cafodd yr Esgob William Morgan ei eni ac fe gyfieithodd y Beibl i’r Gymraeg ym 1588, gan roi fframwaith gadarn i’r iaith.

Yn dilyn buddsoddiad gwerth £294,500 mae’r ffermdy ger Penmachno yn Nyffryn Conwy wedi ei ddiogelu rhag y tywydd gydag ystafell newydd i gadw hen feiblau o bedwar ban y byd.

Mae'r ffermdy bellach dan reolaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Yn ôl Rheolwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Eryri mae ffrwyth llafur y gwaith yn "gyfle i ddathlu" pwysigrwydd y safle, gyda’r Beibl Cyssegr-lan o 1588 bellach yn ôl yno.

'Werth y byd'

Nod y prosiect gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol oedd canolbwyntio ar wella mynediad a dehongliad y safle.

Un o’r llwyddiannau mwyaf yw bod Y Beibl Cyssegr-lan o 1588 nol yn cael ei gadw ar y safle, a hynny’n destun balchder.

“Mae’r buddsoddiad di bod yn wych ac yn galluogi inni brynu cabinet pwrpasol”, meddai Fflur Medi Owen o Rhaglennu a Phrofiad Ymwelwyr Tŷ Mawr Wybrnant.

Image
Beibl William Morgan

“Mae werth y byd nid dim ond i ni ond i ni fel Cymry Cymraeg sydd dal yn siarad ac yn dathlu hynny.

“Mae’n un o fil o gopïau gafodd eu cyhoeddi ym 1588 ac mae o wrth wraidd ein profiad ymwelwyr ni”.

Un o’r newidiadau mwyaf i’r safle yw sefydlu ‘Y Pod’ ger y ffermdy sydd rŵan yn gartref i rai o hen feiblau’r byd mewn amryw o ieithoedd.

Mae gwaith dehongli newydd hefyd yn ogystal ag addurniadau gwydr, marciau silff caligraffig, canllawiau rhwymo canoloesol modern, a deunyddiau panel sydd wedi’u hysbrydoli gan dirwedd Cymru.

Image
Trystan, Rheolwr Cyffredinol Ymddiriedolaeth Genedlaethol Eryri
Trystan Edwards, Rheolwr Cyffredinol Ymddiriedolaeth Genedlaethol Eryri.

“Mae’n garreg filltir nodedig oherwydd mae gymaint o amser wedi bod ers i ni gael buddsoddiad iawn i Dŷ Mawr bron a bod 40 o flynyddoedd” meddai Trystan Edwards, Rheolwr Cyffredinol Ymddiriedolaeth Genedlaethol Eryri.

“Ma’n gyfle i ni ddangos a dathlu’r gwaith.

“Mae Tŷ Mawr Wybrnant yn le hynod bwysig os da chi’n ystyried y cyd-destun o iaith a chrefydd a ni fel bobl Cymraeg mae hwn yn rhan annatod o’n hanes ni ac mi alle fod yn bentwr o gerrig ar y llawr.

“ 'Sa dal yn leoliad pererindod ond mae’r ffaith bod y lle mae dal yn sefyll a bod y casgliadau yma... mae’n fater pwysig yn lleol ond i ni fel cenedl yn le materol iawn."

Yn y prif ffermdy mae blychau arddangos o ansawdd amgueddfa, a fydd yn dangos detholiad o Feiblau eraill o’r casgliad.

Mae hynny’n cynnwys gwaith dehongli gan blant lleol o Ysgol Dyffryn Conwy fu’n cydweithio â’r Athro Angharad Price o Brifysgol Bangor.

Yn ôl yr Ymddiriedolaeth mae’r gwaith yn sicrhau dyfodol y safle am genedlaethau i ddod.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.