Newyddion S4C

Caernarfon yn un o'r trefi 'hapusaf' i fyw ynddi ym Mhrydain

Gŵyl Fwyd Caernarfon

Caernarfon yw un o'r trefi "hapusaf" i fyw ynddi ym Mhrydain.

Dyna farn papur newydd The Guardian sydd yn rhoi'r dref yng ngogledd orllewin Cymru yn drydydd ar eu rhestr o lefydd hapusaf i fyw yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

Roedd Aberystwyth yn ymddangos ar y rhestr hir o lefydd hapusaf i fyw ynddynt hefyd.

Yr hyn mae'r Guardian wedi ei ddefnyddio i fesur y trefi hapusaf ydy mynediad i gefn gwlad, y môr a natur yn ogystal â phwysigrwydd diwylliant a chymuned.

Hefyd roedd ffactorau ymarferol wedi eu hystyried gan gynnwys amser aros i weld doctor, amser gyrru i ysbytai a chyflymder cysylltiad y we.

Berwick-upon-Tweed yn Northumberland ac Evesham yn Sir Gaerwrangon sydd yn cipio'r ddau safle uchaf.

Castell Caernarfon, Galeri a thafarn y Black Boy yw rhai o brif atyniadau'r dref yn ôl The Guardian.

Ac mae tirlun Eryri a thraethau Penrhyn Llŷn hefyd yn atyniadau sydd yn cyfrannu at wneud y dref yn un o'r rhai "hapusaf".

Gŵyl Fwyd Caernarfon yw un o'r prif bethau i wneud yn y dref yn y gwanwyn, yn ogystal â mynd am dro neu feicio ar Lôn Eifion.

Mae'r papur newydd hefyd yn dweud mai Llandwrog ydy un o'r llefydd gorau i brynu tŷ yn yr ardal, gyda phrisiau tai yn amrywio rhwng £340,000 a £395,000.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.