Eurovision 2025: Awstria yn fuddugol ac Israel yn ail
Awstria ddaeth yn fuddugol yng nghystadleuaeth Eurovision eleni yn y Swistir nos Sadwrn, gydag Israel yn ail.
Fe orffennodd cân y DU 'What The Hell Just Happened?' a gafodd ei pherfformio gan y band Remember Monday yn safle 19.
Ar ôl ennill 88 o farciau gan y beirniaid swyddogol, cafodd y grŵp 0 pwynt ym mhleidlais y cyhoedd.
Roedd enillydd y gystadleuaeth, JJ, yn emosiynol ar ôl ei fuddugoliaeth, gan ddweud "Diolch Ewrop, dwi'n eich caru chi i gyd" wedi iddo berfformio'r gân fuddugol am yr eildro.
Mewn cynhadledd newyddion yn ddiweddarach, dywedodd JJ: "Anghofiwch am gasineb, cariad ydy'r grym cryfaf."
Fe sgoriodd JJ 436 o bwyntiau, gydag Israel yn ail ar 357 pwynt ac Estonia yn drydydd gyda 356 pwynt.
Am yr ail flwyddyn yn olynol, roedd dadlau am y ffaith fod Israel yn cymryd rhan yn y sioe, gyda phrotestwyr yn galw am wahardd y wlad o'r gystadleuaeth yn sgil eu gweithredoedd milwrol yn Gaza.
Fe wnaeth protestwyr yn cefnogi Palestiniaid brotestio ar strydoedd Basel oriau cyn y gystadleuaeth.
Yn ddiweddarach, fe gafodd dyn a dynes eu hatal rhag camu ar y llwyfan yn ystod perfformiad Israel.
Ni lwyddodd hynny i amharu ar berfformiad y gantores ifanc Yuval Raphael.
Mae'r gantores 25 oed yn oroeswr ymosodiadau Hamas ar 7 Hydref 2023.
Dywedodd y grŵp ymgyrchu amgylcheddol a gwleidyddol, Youth Demand, sy'n galw am waharddiad masnach ar Israel, fod dau o'u cefnogwyr, David Curry, 22, o Fanceinion, a Meaghan Leon, 27, o Lundain, wedi eu harestio.