Newyddion S4C

Pryderon lleol wedi cynlluniau i agor cartref gofal yn Sir Conwy

13-17 priory grange.jpg

Gallai cartref gofal gwag yn Llandrillo-yn-Rhos yn Sir Conwy gael ei droi yn gartref gofal 50 ystafell. 

Mae lan Khanijau o gwmni Firtree Healthcare Limited wedi gwneud cais i adran gynllunio Cyngor Sir Conwy i ddymchwel eiddo 13-17 Priory Grange ar Ffordd Kenelm. 

Ond mae gan gymdogion bryderon am y sŵn a'r traffig yn sgil hyn.

Mae'r cwmni eisiau adeiladu cartref gofal newydd gyda 50 ystafell unigol, gydag ardaloedd cymunedol a bwyta, ac ardaloedd ar gyfer staff. 

Fe wnaeth y cartref gau yn 2018, ac mae wedi parhau ar gau ers hynny. 

Ond mae'r cymdogion Ruth a Mike Mulvaney wedi ysgrifennu at y cyngor i wrthwynebu'r cynlluniau. 

"Fe fydd y dymchwel yn arwain at ddefnyddio peiriannau trwm, danfon deunyddiau draw, a llygredd," meddai'r llythyr gan y cymdogion.

"Mae'r gwaith dydd i ddydd o redeg cartref gofal yn dibynnu ar ddosbarthu a chasglu bwyd, golchi dillad, a'r holl staff sy'n gysylltiedig ag adeilad mor fawr, ac fe fydd hyn yn cynyddu lefel y sŵn mewn cymuned sydd fel arall yn eithaf tawel.

"Mae parcio i ddiwallu anghenion staff, cludo nwyddau, ambiwlansys, meddygon ac ymwelwyr yn gwbl annigonol ac fe fydd yn arwain at orlif o barcio ar y ffordd."

Yn ôl y datblygwyr, byddai'r cartref gofal yn creu tua 35 o swyddi newydd. 

Nid yw Cyngor Tref Bae Colwyn wedi codi unrhyw bryderon, ond maen nhw wedi cynghori Cyngor Sir Conwy fod yna "bryderon posib am ymwelwyr yn parcio ar y ffordd, yn enwedig yn ystod yr amseroedd mwy prysur o'r flwyddyn".

Mae'r cyngor tref wedi gwneud cais i sicrhau fod yna ddigon o lefydd parcio ar y safle ar gyfer staff ac ymwelwyr. 

Mae disgwyl i'r cynlluniau gael eu trafod gan bwyllgor cynllunio Cyngor Sir Conwy yn y misoedd nesaf. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.