Cymorth i Fenywod Caerdydd i ddod o dan ofal elusen i'r digartref ar ôl wynebu dyfodol ansicr
Mae elusen Cymorth i Fenywod Caerdydd wedi dweud y byddwn nhw'n dod o dan ofal elusen i'r digartref yng Nghymru wedi iddyn nhw wynebu dyfodol ansicr.
Mae Cymorth i Fenywod yn sefydliad sy'n ceisio atal trais yn erbyn menywod a merched ifanc, ac i gefnogi goroeswyr.
Mewn datganiad, dywedodd elusen i'r digartef Llamau y bydd Cymorth i Fenywod yn cyfuno gyda nhw.
Roedd yn "gam arwyddocaol tuag at gryfhau cefnogaeth a gwasanaethau i fenywod a theuluoedd ar draws Cymru," medden nhw.
Daw'r penderfyniad wedi datganiad gan Gymorth i Fenywod Caerdydd ym mis Mawrth eu bod nhw wedi penderfynu dirprwyo awdurdod i Llamau.
Dywedodd Llamau mewn datganiad fod uno'r sefydliadau yn digwydd yn sgil heriau cynyddol i wasanaethau cam-drin domestig yn y DU, gan gynnwys cyllid annigonol, prinder gweithlu, a salwch staff.
Roedd hyn yn ôl yr elusen wedi gwneud dyfodol Cymorth i Fenywod Caerdydd yn "hynod o fregus".
Ychwanegodd Llamau fod yr undod yn "arwydd o bennod newydd o wydnwch, gan sicrhau fod cefnogaeth hanfodol ac o safon uchel yn parhau heb ymyrraeth i fenywod a phlant yng Nghaerdydd."
Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Cymorth i Fenywod Caerdydd, Katie Chappelle: "Wedi 50 mlynedd o gefnogi menywod a phlant, mae Cymorth i Fenywod Caerdydd yn hyderus y bydd uno'r ddau sefydliad yn sicrhau y bydd ein gwasanaethau yn parhau ac yn tyfu.
"Hoffem gynnig cysur i bawb sydd ein hangen ni ar hyn o bryd na fydd y gwasanaeth yn dod i ben, ac fe fydd y gefnogaeth yn parhau o dan ofal Llamau."
Ychwanegodd Prif Weithredwyr Llamau, Frances Beecher a Sam Austin: "Mae'n fraint i ni gefnogi Cymorth i Fenywod Caerdydd yn y tymor byr i sicrhau fod gwasanaethau i fenywod a theuluoedd yn parhau o safon.
"Yn y tymor hir, mae uno'r ddau sefydliad yn sicrhau y bydd gwasanaethau allweddol i fenywod a theuluoedd yn parhau heb amharu."