Cymro â diabetes cynnar yn galw am leihau costau cyffuriau colli pwysau
Cymro â diabetes cynnar yn galw am leihau costau cyffuriau colli pwysau
"Dw i di cael hwn heddiw ac mae'n para mis."
Y pin drudfawr mae mwy yn ei weld fel allwedd all eu helpu i golli pwysau i fod yn iachach.
Yn 52 oed, mae Elfed Wyn Morgan yn byw efo diabetes cynnar ers chwe blynedd a phwysau gwaed uchel.
Mae'n bwyta'n iach ac yn symud mwy ond mae pethau'n dal i fynd i'r cyfeiriad anghywir.
Mae felly, wedi prynu'r cyffur monjaro efo'i arian ei hun.
"Dw i arno fo ers mis rwan.
"Costodd yr un cyntaf £139.
"Mae hwnna wedi gweithio ac wedi bod ar y fferyllydd lleol a dw i wedi colli pedwar cilogram neu naw pwys mewn mis.
"Dw i ar ddos arall sy'n ddwbl y dos.
"Mae'r pris yn uwch hefyd.
"Dw i'n talu £169 y mis amdano.
"Mae'n lot o bres a sdim pawb sy'n gallu fforddio fo."
Dyna pam bod Elfed eisiau iddi fod yn haws derbyn y pigiad am ddim ar y GIG neu'n rhatach yn breifat.
Mae'n ddipyn o arian i'r Llywodraeth a chyllideb y GIG hefyd.
Ydych chi'n derbyn efallai bod y Llywodraeth ddim yn gallu ariannu pob cyffur sydd ar y farchnad?
"Does gan y Llywodraeth dim pres i ddim byd!
"Mae Llywodraeth dim ond yn gwneud beth maen nhw'n gallu.
"Dw i'n hapus i dalu am y meddyginiaeth neu mond yn talu hanner o."
Mae Llywodraeth Cymru yn deud bod mounjaro a sawl cyffur arall ar gael yn rheolaidd ar y GIG yn unol a chanllawiau'r corff sy'n cynghori ar ddefnydd meddyginiaeth.
A'r rhaglen rheoli pwysau cenedlaethol.
Dylai meddyginiaeth gael ei rhagnodi trwy wasanaeth arbenigol rheoli pwysau, medda nhw.
Mae eraill yn teimlo bod angen mwy o ofal gyda'r pigiadau newydd.
"Fi'n deall o le mae'r poblogrwydd yn dod.
"Dw i ddim yn meddwl taw'r rhain yw'r easy fix.
"Dylsen ni stopio pobl rhag fynd yn ordew yn y lle cyntaf yn hytrach na delio efo'r broblem yn yr hirdymor.
"Dylsen ni gael mwy o addysg ar atal bobl gyrraedd y pwynt lle mae angen defnyddio nhw."
Mae Elfed ar fin ddechrau ar y dos cryfach o mounjaro yn y gobaith o golli rhagor o bwysau ac osgoi datblygu diabetes llawn.
Ond mae'r meddyginiaeth newydd yn gyflym dod yn destun trafod.