Arestio dau mewn cysylltiad â fideo sy'n dangos ymosodiad ar ddisgybl ysgol
Mae dau wedi eu harestio mewn cysylltiad â fideo sy'n dangos ymosodiad honedig ar ddisgybl ysgol yn ardal Llyswyry yng Nghasnewydd.
Cafodd Heddlu Gwent wybod am fideo a oedd yn cylchredeg ar y cyfryngau cymdeithasol, medden nhw, ac maen nhw bellach wedi adnabod y person ifanc ac yn rhoi cefnogaeth iddo.
Mae’r ddau sydd wedi eu harestio yn y ddalfa, meddai'r heddlu nos Fercher.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Vicki Townsend: “Rydym yn deall y pryder a'r gofid y gall digwyddiadau o'r math hwn eu hachosi, a hoffem ddiolch i'r gymuned am yr wybodaeth maen nhw wedi'i rhoi inni hyd yn hyn.
“Gall unrhyw ddarn o wybodaeth fod yn hanfodol wrth lywio ein hymchwiliad, pa bynnag mor fach ydyw”.
Ychwanegodd na ddylai pobl ddyfalu am fanylion y digwyddiad ar y cyfryngau cymdeithasol.
Yn hytrach, mae angen cysylltu gyda’r heddlu ar unwaith os oes ganddyn nhw unrhyw fanylion y maen nhw'n credu a allai helpu ein hymchwiliad, meddai.
Mae’n bosib gwneud hynny drwy ffonio 101 neu drwy anfon neges uniongyrchol ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ddyfynnu cofnod 444 o 14/05.