Newyddion S4C

Syr Keir Starmer yn amddiffyn ei sylwadau ar fewnfudo

Syr Keir Starmer yn amddiffyn ei sylwadau ar fewnfudo

Mae’r Prif Weinidog Syr Keir Starmer wedi amddiffyn ei sylwadau a wnaeth mewn araith ddydd Llun am “ynysoedd o ddieithriaid”, gan alw am “system fewnfudo yn seiliedig ar egwyddorion rheoli, dethol a thegwch”.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts, wrth Dŷ’r Cyffredin ddydd Mercher: “Siaradodd y Prif Weinidog yma unwaith am dosturi ac urddas tuag at fewnfudwyr, ac am amddiffyn symudiad rhydd.

“Nawr mae’n sôn am ‘ynysoedd o ddieithriaid’ a ‘chymryd rheolaeth yn ôl’. Mae’n rhaid i rywun yma feirniadu hyn.

“Mae’n ymddangos mai’r unig egwyddor y mae’n ei hamddiffyn yn gyson yw pa un bynnag a glywodd ddiwethaf mewn grŵp ffocws. 

"Felly gofynnaf iddo, a oes unrhyw gred sydd ganddo sy’n goroesi wythnos yn Downing Street?”

Ysgydwodd Ms Saville Roberts ei phen wrth i Syr Keir ateb: “Oes, y gred ei bod hi’n siarad rybish.”

Ychwanegodd y Prif Weinidog: “Rydw i eisiau arwain gwlad lle rydyn ni’n cyd-dynnu a cherdded i’r dyfodol fel cymdogion ac fel cymunedau, nid fel dieithriaid, ac mae colli rheolaeth ar fudo gan y llywodraeth ddiwethaf wedi rhoi hynny i gyd mewn perygl, a dyna pam rydyn ni’n trwsio’r system yn seiliedig ar egwyddorion o reoli, dethol a thegwch.”

'Dysgu llawer gan Reform'

Wrth siarad yng Nghwestiynau’r Prif Weinidog, dywedodd Nigel Farage, arweinydd Reform UK: “Fe wnaethon ni yn Reform, plaid sy’n fyw ac yn cicio, fwynhau eich araith ddydd Llun yn fawr iawn, mae’n ymddangos eich bod yn dysgu llawer iawn gennym ni. 

"A gaf i eich annog os gwelwch yn dda i fynd ymhellach, fel mater o ddiogelwch cenedlaethol?

“Dros y penwythnos, arestiwyd mewnfudwr anghyfreithlon o Iran, a ddaeth mewn cwch yn ein barn ni, yng ngogledd Lloegr ar gyhuddiadau difrifol o derfysgaeth.

"Ers yr araith ddydd Llun, mae 1,000 o ddynion ifanc heb eu dogfennu wedi croesi’r Sianel.

“Ydy’r Prif Weinidog yn cytuno nawr yw’r amser i ddatgan y sefyllfa yn y Sianel fel argyfwng diogelwch cenedlaethol?”

Atebodd y Prif Weinidog: “Mae’r sefyllfa’n ddifrifol, collodd y llywodraeth ddiwethaf reolaeth ar y ffiniau.”

 
 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.