Cabinet Gwynedd yn pleidleisio o blaid gwahodd Eisteddfod yr Urdd i'r sir yn 2028
Mae aelodau Cabinet Gwynedd wedi pleidleisio o blaid gwahodd Eisteddfod yr Urdd i’r sir yn 2028.
Mewn cyfarfod ddydd Mawrth, fe bleidleisiodd pob aelod o’r Cabinet o blaid croesawu’r ŵyl i Wynedd, gan olygu y bydd bellach yn cyflwyno’r cais i’r Urdd.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor Sir, Nia Jeffreys ei bod yn gallu “teimlo’r brwdfrydedd yn y ‘stafell.”
Yn ystod y bleidlais, fe wnaeth y Cabinet hefyd gymeradwyo’r penderfyniad i gyfrannu £200,000 o’r gronfa trawsffurfio tuag at gostau cynnal yr ŵyl.
Dywedodd Ffion Mai Jones, a gyflwynodd yr adroddiad ar wahodd Eisteddfod yr Urdd i’r cabinet: “Er y cyfraniad ariannol mae’r gwerth economaidd i’r ardal yn llawer mwy na hynny wrth gwrs.”
Gwerth economaidd Eisteddfod yr Urdd yn 2023 oedd £16m i Gymru ac roedd dros £8.5m o’r cyfanswm hwnnw yn ardal leol yr Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Gâr, medd yr adroddiad.
Dyw’r bleidlais o blaid ddim yn golygu y bydd yr Eisteddfod o reidrwydd yn dod i Wynedd, na chwaith yn penderfynu lle yng Ngwynedd y bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal.
Mae gofyn i awdurdodau lleol fynegi eu diddordeb i gynnal Eisteddfod bob pum mlynedd yn arferol, er mwyn gallu cynllunio ymlaen a rhannu’r baich ar draws Awdurdodau Lleol Cymru.
Hanes yr Eisteddfod yng Ngwynedd
Cafodd Eisteddfod yr Urdd ei chynnal ddiwethaf yn y sir dros ddegawd yn ôl, yn y Bala yn 2014.
Yn ogystal â’r Bala mae Gwynedd wedi cynnal eisteddfodau yng Nglynllifon yn 2012 a Phen Llŷn yn 1998 yn y 30 mlynedd diwethaf.
Mae hefyd wedi cynnal pedair Eisteddfod Genedlaethol, yn 2023, 2009, 2005 ac 1997.
Mae dau ranbarth Urdd yng Ngwynedd - Eryri (Arfon/Dwyfor) a Meirionnydd.