Joci ifanc wedi marw ar safle rasio ceffylau
Mae joci ifanc wedi marw ar safle rasio ceffylau yn ne-ddwyrain Lloegr.
Fo yw'r trydydd person oedd yn gweithio yn y stabl i farw yn ystod cyfnod o bedair blynedd.
Cafodd corff Billy Moffat, oedd yn ei ugeiniau cynnar, ei ddarganfod yn ei lety ddydd Sadwrn ar ôl iddo beidio â mynd i’r gwaith yn stablau Warren Greatrex yn Lambourn, Berkshire.
Mae tudalen codi arian bellach wedi ei sefydlu er mwyn cludo ei gorff a’i eiddo yn ôl i’w gartref yng ngogledd-ddwyrain Lloegr.
Mewn teyrnged iddo, dywedodd ei ffrind ei fod “wedi mynd yn llawer rhy fuan.”
Mae dros £10,000 wedi ei godi ar dudalen Go Fund Me hyd yn hyn. Bydd yr arian hefyd yn mynd tuag at gostau angladd, medd aelod o’i deulu a sefydlodd y dudalen.
'Mae fy nghalon wedi ei dorri'
Dywedodd James Moffat: “Dwi wedi cael cais i sefydlu tudalen Go Fund Me er mwyn helpu i ddod a’m bachgen ni a’i eiddo yn ôl adref i’r gogledd-ddwyrain ac i helpu tuag at costau'r angladd.
“Dyw e ddim yn rhywbeth fyddwn ni fel arfer yn meddwl am wneud fel teulu,” meddai.
Ond dywedodd bod mam Billy Moffat wedi gofyn am roddion er mwyn sicrhau bod ei mab yn cael dychwelyd adref a chael ei gladdu.
Mewn teyrnged iddo ddywedodd ei ffrind a’r cyd-joci, Jack Wilmot: “Billy, dyw geiriau methu disgrifio’r ffordd rwyf yn teimlo.
“Mae fy nghalon wedi ei dorri, mi fyddai’n dy garu di am byth.
“Caru ti… Wedi mynd yn llawer rhy fuan."
Billy Moffat yw’r trydydd person i farw oedd yn gweithio yn stablau Warren Greatrex yn ystod y pedair blynedd diwethaf, a hynny’n dilyn marwolaeth David Thompson, 25 oed, ym mis Chwefror 2022 a Michael Pitt, 19 oed, ym mis Gorffennaf 2021.
Yn ôl adroddiadau papur newydd The Sun, roedd Mr Moffat wedi bod yn gweithio yn y stablau ers tua tair blynedd.