Ffermydd bananas 'yn marw' oherwydd newid hinsawdd
Mae bananas yn dod o dan fygythiad cynyddol o achos newid hinsawdd.
Yn ôl adroddiad mae ffermwyr yn dweud bod tywydd eithafol yn “lladd” eu cnydau.
Mae dadansoddiad gan elusen datblygu rhyngwladol Cymorth Cristnogol yn dangos bod tymheredd yn codi a phlâu sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd yn peryglu bananas.
Mae'r ddogfen yn dweud gallai bron i ddwy ran o dair o'r ardaloedd tyfu bananas mwyaf addas yn Lladin America a'r Caribî gael eu colli erbyn 2080 oherwydd effeithiau hinsawdd. Dyma'r ardaloedd sy'n gyfrifol am tua 80% o allforion banana'r byd.
Mae bananas yn tyfu mewn tymheredd rhwng 15-35C ond maent hefyd yn sensitif iawn i brinder dŵr, sy'n golygu bod tywydd cynyddol eithafol yn effeithio ar allu'r planhigyn i ffotosyntheseisio.
Mae clefydau hefyd wedi dod i'r amlwg fel bygythiad cynyddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan achosi colli ffermydd cyfan ar draws Lladin America.
Dywedodd Cymorth Cristnogol bod ffermydd yn “marw” sy’n effeithio ar incwm ffermwyr a’u teuluoedd.
Mae Cymorth Cristnogol yn galw am gyllid hinsawdd rhyngwladol i gefnogi tyfwyr bananas a chymunedau amaethyddol i addasu i'r newid yn yr hinsawdd.
Dywedodd Holly Woodward-Davey, Cydlynydd prosiect yn Banana Link, sy’n gweithio ar draws y gadwyn gyflenwi bananas: “Mae’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng bioamrywiaeth cysylltiedig yn galw am ailfeddwl am systemau cynhyrchu bwyd diwydiannol, sy’n dibynnu ar y defnydd o symiau cynyddol o gemegau niweidiol.
“Rhaid i lywodraethau barhau i gymryd camau pendant i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a gwahardd y cemegau mwyaf gwenwynig wrth fuddsoddi mewn trawsnewidiadau i systemau bwyd teg, sefydlog ac iach.”