Ymdrin â her AI i’r ddynoliaeth yn flaenoriaeth medd y Pab newydd
Mae ymdrin â her deallusrwydd artiffisial (AI) i’r ddynoliaeth yn flaenoriaeth iddo meddai'r Pab newydd ddydd Sadwrn.
Dywedodd Leo XIV - Robert Prevost gynt - ei fod wedi dewis ei enw oherwydd bod ei ragflaenydd Leo XIII yn enwog am fynd i’r afael â’r chwyldro diwydiannol blaenorol yn ystod yr 19eg ganrif.
Mewn cylchlythyr a gyhoeddodd yn 1891, Rerum novarum, fe amlinellodd y Pab Leo XIII ddadl yr Eglwys Gatholig dros gyflog teg i weithwyr ac undebau llafur a'i gwrthwynebiad i gyfalafiaeth laissez-faire.
Mewn datganiad ddydd Sadwrn dywedodd Leo XIV, sydd â gradd mewn mathamateg, mai cyfrifoldeb yr Eglwys Gatholig oedd mynd i’r afael ag ail chwyldro diwydiannol ddigidol.
“Yn ein hoes ni, mae’r eglwys yn cynnig trysorfa ei dysgeidiaeth gymdeithasol i bawb mewn ymateb i chwyldro diwydiannol arall ac i ddatblygiadau ym maes deallusrwydd artiffisial sy’n cyflwyno heriau newydd i urddas dynol, cyfiawnder a llafur,” meddai.
Dywedodd y Fatican ddydd Sadwrn y byddai Leo yn cadw'r arwyddair a'r arfbais a oedd ganddo pan oedd yn esgob Chiclayo, Periw.
Mae ei arwyddair “in Illo uno unum,” yn golygu “yn yr un [Crist] yr ydym yn un”.
Llun: Y Pab yn ymweld â chreirfa i'r Forwyn Fair ddydd Sadwrn.