Newyddion S4C

Gruff Rhys i chwarae yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam

Gruff Rhys

Fe fydd Gruff Rhys ymysg y bandiau a fydd yn chwarae yn ystod Eistedddod Genedlaethol Wrecsam ym mis Awst.

Fe fydd yn chwarae yn un o gigiau Cymdeithas yr Iaith, yn Neuadd William Aston ar gampws Prifysgol Wrecsam.

Dyma fydd y tro cyntaf ers 2002 i Gruff, sy’n fwyaf enwog fel canwr a gitarydd y band Super Furry Animals, chwarae'n ystod wythnos yr Eisteddfod.

Yn rhan o'r un gig gyda Gruff Rhys a'r Band fydd Griff Lynch (o'r Ods gynt) a'i fand newydd, Ynys, a Wrkhouse.

“Tydy o [Gruff Rhys] rioed wedi chware o'r blaen efo'r band llawn,” meddai Nia Marshall ar ran Pwyllgor Trefnu Lleol y Gymdeithas.

"Rydyn ni'n falch iawn o bartnera gyda Theatr Clwyd - sy'n trefnu Neuadd William Aston yn Wrecsam - i drefnu'r noson hon a dwy noson fawr arall, a hynny ar ben y gigs bob nos yn y Saith Seren - y dafarn Gymraeg a fydd yn gartre i ni trwy'r wythnos. 

“Mae'n gyfnod cyffrous newydd i Gruff Rhys wrth iddo ryddhau yr haf hwn deunydd Cymraeg newydd."

Mae yr Eisteddfod Genedlaethol eisoes wedi cyhoeddi rhai o’r artistiaid a fydd yn perfformio are eu prif lwyfannau gan gynnwys Candelas, Celt, Dafydd Iwan ac Elin Fflur.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.