Rhydaman: Plismon yn pledio'n euog i yrru'n ddiofal ar ôl gwrthdrawiad
Mae un o swyddogion Heddlu Dyfed-Powys wedi pledio'n euog i yrru'n ddiofal tra ar ddyletswydd ar ôl gwrthdrawiad yn ardal Rhydaman.
Plediodd Cwnstabl Phil Thomas yn euog i yrru'n ddiofal yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mercher.
Clywodd y llys bod Cwnstabl Thomas yn gyrru cerbyd gyda marciau heddlu ar ddydd Llun 29 Medi 2024 gan ddilyn cerbyd a oedd yn cael ei yrru ar gyflymder uwch na'r terfyn cyflymder.
Gyrrodd y cwnstabl i ochr arall y ffordd a tharo yn erbyn ochr cerbyd oedd yn teithio tuag ato cyn taro polyn lamp.
Dioddefodd gyrrwr y cerbyd arall mân anafiadau ac aeth i’r ysbyty fel rhagofal.
Derbyniodd y Cwnstabl Thomas chwe phwynt cosb ar ei drwydded yrru a dirwy o £275. Byddu rhaid iddo hefyd dalu gordal o £110 o fewn 28 diwrnod i bledio’n euog.
Yn wreiddiol cafodd ei alw i ymddangos yn y llys i ateb cyhuddiad o yrru'n beryglus ac fe wnaeth e wadu'r cyhuddiad hwnnw.
Cyfaddefodd i’r drosedd o yrru’n ddiofal.
'Safon'
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Phil Rowe, Pennaeth yr Adran Safonau Proffesiynol: “Mae Cwnstabl Thomas yn yrrwr ymateb yr heddlu ac y mae wedi ymgymryd â hyfforddiant, a oedd yn cynnwys dilyn a cheisio stopio cerbydau gyda’r goleuadau glas wedi eu goleuo.
"Ond fe wnaeth ei yrru ar y diwrnod hwnnw syrthio islaw’r safon sydd i'w disgwyl gan swyddog wedi ei hyfforddi ar gyfer y fath amgylchiadau. Mae’n briodol ei fod wedi ei ddal i gyfrif am ei weithredoedd.”
Mae Cwnstabl Thomas wedi ei symud o ddyletswyddau llinell flaen ers y digwyddiad ac mae hefyd yn destun archwiliad camymddwyn difrifol gan yr Adran Safonau Proffesiynol.