Gwobr arbennig am Gyfraniad Oes i fyd y llyfrau i Lyn Ebenezer
Mae'r awdur a'r cyn-gyflwynydd teledu Lyn Ebenezer wedi derbyn gwobr arbennig am Gyfraniad Oes i fyd y llyfrau yng Nghymru.
Yn awdur i dros 100 o lyfrau, dywedodd Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru fod Lyn Ebenezer wedi gwneud cyfraniad helaeth i'r byd cyhoeddi yng Nghymru.
Mae'r llyfrau yn cynnwys nofelau ditectif, atgofion, hanes, ysgrifau a barddoniaeth, ac mae'n parhau i ysgrifennu colofn yn fisol i'r Cymro yn ogystal.
Mae hefyd wedi gweithio i Wasg Carreg Gwalch fel golygydd.
Dywedodd Myrddin ap Dafydd, sylfaenydd Gwasg Carreg Gwalch: "Pan ddechreuodd weithio fel golygydd i'r wasg, roedd ganddo drwyn newyddiadurol am gymeriadau gyda straeon gwerth chweil. Dim ond rhywun gyda holl brofiad Lyn fedrai dynnu'r gorau allan o'r cymeriadau hyn.
"Cyflwynodd hanesion pobl wahanol inni, gan wybod yn reddfol sut i adrodd eu cadwyn o straeon. Diolch iddo am gyfraniad na chafwyd ei debyg yn hanes cyhoeddi Cymraeg."
Fe gafodd y wobr ei chyflwyno gan Garmon Gruffudd o'r Lolfa ar ran Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru.
Mae'r Cwlwm, sydd yn cefnogi cyhoeddwyr a'r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru, yn cyflwyno'r wobr yn flynyddol i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad hir-dymor i'r byd llyfrau yng Nghymru.