Newyddion S4C

Y Seintiau Newydd i wynebu Cei Connah yn rownd derfynol Cwpan Cymru JD

Sgorio
Y Seintiau Newydd v Cei Connah

ROWND DERFYNOL CWPAN CYMRU JD 2024/25

Y Seintiau Newydd v Cei Connah | Dydd Sul – 16:00 
(Rodney Parade, Casnewydd)

Am yr ail flwyddyn yn olynol bydd Y Seintiau Newydd yn wynebu Cei Connah yn rownd derfynol Cwpan Cymru JD ar faes Rodney Parade, Casnewydd. 

Roedd y Seintiau wedi mynd ar rediad o 53 o gemau domestig heb golli cyn y rownd derfynol y flwyddyn diwethaf, ac felly roedd hi’n dipyn o sioc pen enillodd Cei Connah o2-1 llynedd, gan rwystro cewri Croesoswallt rhag cwblhau’r trebl.

Dyw’r Seintiau ddim wedi ei chael hi mor rhwydd yn y gynghrair eleni gan golli chwe gêm yn y Cymru Premier JD am y tro cyntaf ers tymor 2019/20 pan orffennon nhw’n ail y tu ôl i Gei Connah.

Er hynny, mae’r Seintiau wedi ennill y bencampwriaeth gan orffen y tymor 14 pwynt yn glir o’r gweddill, ac fe all criw Craig Harrison gwblhau’r trebl domestig am y tro cyntaf ers tymor 2015/16 pe bae nhw’n trechu’r Nomadiaid yn y rownd derfynol ddydd Sul.

Tymor yma

Dyw’r timau m’ond wedi cyfarfod ddwywaith y tymor hwn, sy’n anarferol o isel o ystyried bod y clybiau wedi cyfarfod 11 o weithiau dros y ddau dymor diwethaf.

Y Seintiau Newydd enillodd y ddwy gêm gynghrair rhwng y clybiau yn rhan gynta’r tymor, gyda Declan McManus a Ben Clark yn sgorio goliau hwyr i gipio’r pwyntiau ar Gae y Castell ym mis Hydref (Cei 1-2 YSN).

A 2-1 oedd hi ar nos Calan hefyd gyda Ryan Brobbel a Jordan Williams yn rhwydo i’r Seintiau’n yr hanner cyntaf, cyn i Jack Kenny weld cerdyn coch i Gei Connah.

Methodd Cei Connah a chyrraedd yr hanner uchaf y tymor hwn, ac ar ôl gorffen yn 8fed yn y tabl bydd rhaid i’r Nomadiaid ennill Cwpan Cymru os am chwarae’n Ewrop eleni 

Rheolwyr

Ar ôl arwain Cei Connah i ennill Cwpan Cymru ar ddiwedd y tymor diwethaf, fe gafodd y rheolwr Neil Gibson ei ddiswyddo gan y clwb wedi dim ond un gêm gynghrair y tymor yma.

Billy Paynter gafodd ei benodi fel y rheolwr newydd, ond ar ôl arwain y Nomadiaid i’w safle gwaethaf ers blynyddoedd fe gafodd Paynter ei ddiswyddo yng nghanol mis Ebrill.

Mae’n ymddangos mae Jay Catton fydd wrth y llyw i Gei Connah ar gyfer y rownd derfynol, gyda John Disney a Jon Hill-Dunt wrth ei ochr – tri gŵr profiadol sydd â phrofiad o ennill Cwpan Cymru fel chwaraewyr neu hyfforddwyr.

O ran Y Seintiau Newydd, mae Craig Harrison wedi codi Cwpan Cymru ar bump achlysur gyda criw Croesoswallt (2011/12, 2013/14, 2014/15, 2015/16, 2022/23).

Mae bron i ddegawd wedi pasio ers i’r Seintiau Newydd gwblhau’r trebl domestig o dan arweiniad Craig Harrison, ac mae’r gŵr o Gateshead yn benderfynol o gyflawni’r gamp eto eleni.

Ffeinal llynedd

Daeth y tair gôl mewn cyfnod o 10 munud yn ystod yr hanner cyntaf yn y rownd derfynol llynedd.

Harry Franklin roddodd Cei Connah ar y blaen wedi hanner awr, yn cyfeirio croesiad Declan Poole heibio i Connor Roberts yn y gôl.

Ond roedd y Seintiau’n gyfartal chwe munud yn ddiweddarach wedi i Ashley Baker benio’n gywir o groesiad perffaith Daniel Redmond.

Daeth y gôl fuddguol bum munud cyn yr egwyl, ac roedd hi’n foli felys gan y gŵr ifanc Josh Williams – cic acrobataidd aeth i’r gornel uchaf fel saeth, ac eiliad arbennig fydd yn aros yng nghôf cefnogwyr Cei Connah am flynyddoedd i ddod.

Record benben yn y cwpan

Y Bala oedd enillwyr Cwpan Cymru yn nhymor 2016/17, ond ers hynny dim ond Cei Connah a’r Seintiau Newydd sydd wedi cael eu dwylo ar y tlws.

Mae’r Nomadiaid wedi codi’r cwpan ddwywaith – yn 2017/18 ar ôl curo Aberystwyth o 4-1 yn y rownd derfynol ar Barc Latham dan arweiniad Andy Morrison, ac yna eto yn 2023/24 yn erbyn Y Seintiau Newydd o dan arweiniad Neil Gibson.

Yn 2022/23 fe enillodd y Seintiau o 6-0 yn erbyn Y Bala yn rownd derfynol Cwpan Cymru, sef y fuddugoliaeth fwyaf mewn ffeinal ers 1931.

Dyna oedd y 9fed tro i’r clwb o Groesoswallt gael eu henw ar y cwpan, a bellach dim ond Wrecsam (23), Caerdydd (22) ac Abertawe (10) sydd â record well yn y gystadleuaeth.

Ers colli’n erbyn Y Bala yn rownd derfynol 2016/17, mae’r Seintiau wedi chwarae 34 o gemau yng Nghwpan Cymru gan ennill 32 o rheiny a cholli ddwywaith yn erbyn Cei Connah.

Enillodd Cei Connah o 2-1 yn erbyn y Seintiau yn rownd wyth olaf 2017/18, cyn i’r Nomadiaid fynd ymlaen i godi’r cwpan ar ôl curo Aberystwyth. 

Dyna’r unig dro yn y 12 mlynedd diwethaf i’r Seintiau fethu â chyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymru.

Cafodd y Seintiau ddial y flwyddyn ganlynol, yn curo’r Nomadiaid o 3-0 yn rownd derfynol 2018/19 ar y Graig gyda Ryan Brobbel yn sgorio dwy gic rydd o bellter.

Dyma’r pumed tro i Gei Connah gyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymru, yn colli ar giciau o’r smotyn yn erbyn Bangor yn 1997/98, curo Aberystwyth yn 2017/18, colli yn erbyn YSN yn 2018/19, a churo’r Seintiau yn 2023/24.

Mae’r Seintiau wedi chwarae mewn 14 ffeinal, yn ennill naw a cholli ar bump achlysur. 

Y daith i’r rownd derfynol

Dechreuodd y Seintiau eu hymgyrch yn y gystadleuaeth hon mewn steil gyda buddugoliaeth ryfeddol yn erbyn Llangollen (16-0), cyn mynd ymlaen i guro Met Caerdydd (1-3), Bae Colwyn (4-1), Airbus UK (5-0) a Cambrian United (0-5) ar eu ffordd i’r rownd derfynol.

Mae’r Seintiau felly wedi sgorio 33 o goliau mewn pum gêm gwpan y tymor hwn, gan ildio dim ond dwywaith.

Adam Wilson yw prif sgoriwr y Seintiau yn y gystadleuaeth y tymor hwn gyda phedair o goliau, a daeth y pedair gôl yn eu gêm gyntaf yn erbyn Llangollen ‘nôl ym mis Hydref.

Mae Cei Connah o bosib wedi cael llwybr ychydig yn haws i’r rownd derfynol gan nad ydyn nhw wedi wynebu clwb o’r uwch gynghrair hyd yma.

Mae Cei Connah wedi curo pum clwb o’r ail haen yn y gystadleuaeth y tymor yma - Cegidfa (5-0), Trefelin (1-2), Yr Wyddgrug (1-0), Caerau Trelai (0-2) a Llanelli (2-1).

Dyw’r Nomadiaid ddim wedi colli gêm gwpan ers colli o 3-2 yn erbyn Y Bala yn rownd gynderfynol 2022/23, gan fynd ymlaen i ennill 11 yn olynol ers hynny.

Chwaraewyr i’w gwylio

Mae Rhys Hughes wedi serennu yn ei dymor cyntaf i Gei Connah, yn sgorio 17 o goliau ym mhob cystadleuaeth gan ennill gwobr ‘Gôl y Mis’ ddwywaith eleni, a chael ei enwebu ar y rhestr fer ar ddau achlysur arall.

Bydd Hughes yn awyddus i ddangos ei ddoniau ddydd Sul a chodi’r cwpan er mwyn gallu sicrhau pêl-droed Ewropeaidd i Gei Connah dros yr haf.

Mae capten y pencampwyr, Daniel Redmond wedi cael tymor safonol arall gan sgorio tair o goliau yng Nghwpan Cymru, yn cynnwys ergyd hyfryd yn erbyn Cambrian United yn y rownd gynderfynol.

Redmond oedd seren y gêm yn rownd derfynol Cwpan Cymru 2022/23 wrth iddo sgorio un a chreu sawl gôl arall yn y fuddguoliaeth o 6-0 yn erbyn Y Bala.

A bydd hi’n brynhawn arwyddocaol i gôl-geidwad Y Seintiau Newydd, Connor Roberts fydd yn chwarae ei gêm olaf i’r clwb cyn ei ymddeoliad yn 32 mlwydd oed.

Ymunodd Roberts â’r Seintiau yn haf 2018 ac mae wedi chwarae pob eiliad i’r clwb yn y gynghrair am dri tymor yn olynol (96 gêm).

Mae Roberts wedi ennill naw o dlysau ers ymuno â’r Seintiau (yn cynnwys tri Cwpan Cymru), a bydd yn ysu i droi’r naw yn 10 yn ei gêm olaf gyda’r clwb.

Ewrop

Bydd nifer o glybiau’r Cymru Premier JD yn cymryd diddordeb mawr yn y gêm hon ddydd Sul gan y bydd y canlyniad yn dylanwadu ar y gemau ail gyfle a’r ras i gyrraeddEwrop.

Os bydd Y Seintiau Newydd yn fuddugol, yna bydd Pen-y-bont yn sicrhau eu lle’n Ewrop gan iddyn nhw orffen yn ail yn y tabl.

Byddai hynny’n golygu bod Caernarfon a Met Caerdydd yn cyfarfod yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle, a’r enillwyr yn wynebu Hwlffordd yn y rownd derfynol am y tocyn olaf i Ewrop.

Ond pe bae Cei Connah yn codi Cwpan Cymru, yna byddai Pen-y-bont yn croesawu Met Caerdydd yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle, ac Hwlffordd yn herio Caernarfon.

Dim ond unwaith o'r blaen mae Pen-y-bont, Met Caerdydd a Chaernarfon wedi cyrraedd Ewrop, tra bod Hwlffordd hefyd m’ond wedi chwarae’n Ewrop unwaith yn yr 20 mlynedd ddiwethaf.

Mae gan Y Seintiau Newydd a Chei Connah dipyn mwy o brofiad ar y llwyfan Ewropeaidd, gyda’r Seintiau wedi llwyddo i fynd heibio’r rowndiau rhagbrofol am y tro cyntaf erioed eleni.

Record ddiweddar

Bydd Y Seintiau Newydd yn ffefrynnau clir ddydd Sul gan iddyn nhw ennill 17 o’u 18 gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth.

Mae’r Seintiau wedi ennill wyth o’u naw gornest flaenorol yn erbyn Cei Connah, gyda’r unig golled yn dod yn rownd derfynol Cwpan Cymru y tymor diwethaf.

Cafodd Cei Connah ddiweddglo siomedig i’w hymgyrch yn y gynghrair drwy fynd ar rediad o dair gêm heb ennill gan golli yn erbyn Llansawel a’r Barri cyn cael gêm gyfartal yn erbyn Aberystwyth.

Mae momentwm felly o blaid y pencampwyr, ond Cei Connah yw deiliaid y cwpan, ac ar ôl achosi sioc y tymor diwethaf, bydd y Nomadiaid yn awyddus i ail-adrodd y gamp unwaith eto yng Nghasnewydd ddydd Sul.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.