Newyddion S4C

Clwb chwaraeon yn poeni am ei ddyfodol ar ôl difrod gan feicwyr

Difrod FootGolf yn Abertawe

Mae clwb chwaraeon yn Abertawe wedi dweud bod perygl y bydd yn rhaid iddyn nhw gau eu safle “am byth” ar ôl i feicwyr ddifrodi eu tir. 

Mewn datganiad, dywedodd FootGolf Abertawe bod “difrod sylweddol” i’w tir dros y misoedd diwethaf ar ôl i bobl fynd yno ar feiciau cwad a thrydan. 

Maen nhw’n dweud bod y sefyllfa wedi gwaethygu yn ystod yr wythnos diwethaf. 

“Does dim modd atgyweirio’r difrod sydd wedi ei achosi gan y beiciau yma, gan nad oes gennym y gweithlu i wneud hynny,” medd datganiad gan y busnes. 

“Rydym yn fusnes teuluol bach sydd yn cael ei redeg gan ddau ddyn oedrannus. Nid busnes fel cyngor sydd gennym ni.” 

Image
FootGolf Abertawe

Yn ôl y datganiad, timau lleol golff traed (‘footgolf’), chwaraewyr pêl-droed Dinas Abertawe ac ysgolion ac elusennau lleol yw eu cwsmeriaid.  

“Ers agor yn 2016, mae 14 o’n chwaraewyr wedi cynrychioli Cymdeithas Golff Troed Cymru ac mae pedwar wedi cynrychioli tîm Prydain.” 

Bob blwyddyn ers hynny, mae’r cwmni wedi ymddangos ar restr 10 o atyniadau gorau Abertawe, meddai'r neges. 

“Ond os fydd hyn yn parhau, mae 'na bosibilrwydd y bydd yn rhaid i ni gau am byth.” 

Mae’r cwmni yn galw ar bobl sydd yn adnabod y rhai sydd ar fai, i gysylltu â nhw, a'u hannog i beidio â gwneud unrhyw ddifrod pellach. 

“Mae gennym ni delweddau CCTV a lluniau o’r beicwyr a ddaeth yr wythnos hon ac mae’r heddlu wedi cael gwybod,” ychwanegodd. 

Golff traed yw cyfuniad o bêl-droed a golff. Yn hytrach na defnyddio clybiau a pheli golff, mae’n rhaid i chwaraewyr gicio pêl-droed – ond hynny fel rhan o gêm o golff. 

Lluniau Swansea FootGolf 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.