Newyddion S4C

Cwpl o Ben Llŷn a Cheredigion yn ennill tenantiaeth fferm yn Eryri

Ioan Jones a Sara Jenkins

Mae cwpl o Gymru wedi ennill tenantiaeth fferm fynydd 600 erw yn Eryri ar raglen Our Dream Farm ar Channel 4.

Llwyddodd Ioan Jones a Sara Jenkins i sicrhau tenantiaeth 15 mlynedd ar gyfer fferm Llyndy Isaf ar droed Yr Wyddfa yn y rhaglen derfynol nos Sadwrn.

Mae'r ddau yn 28 oed ac yn dod o gefndir ffermio yng Nghymru.

Cafodd Ioan ei fagu ar fferm ddefaid a bîff ym Moduan yng Ngwynedd, ac fe gafodd Sara ei magu ar fferm ei theulu yn Nhal-y-bont yng Ngheredigion. 

Dywedodd Ioan ei bod yn freuddwyd ganddo erioed i fod yn berchen ar ei fferm deuluol ei hun, a’i fod yn "falch iawn" eu bod wedi ennill. 

"Rydym mor falch o gael ein dewis ac rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar i adeiladu bywyd efo’n gilydd yma yn y lleoliad hardd hwn," meddai. 

"Mae tenantiaeth fferm yn bethau prin iawn a dydi cyfleoedd fel hyn ddim yn digwydd yn aml.

"Felly mae’n rhaid i chi gymryd y cyfle pan mae’n cynnig ei hun a mynd amdani."

Pennod newydd

Fe wnaeth y cwpl symud i Lyndy Isaf ychydig cyn y Nadolig. 

Mae'r fferm yn cynnwys caeau tir isel, coetiroedd a thir pori mynyddig ynghyd â ffermdy pedair ystafell wely ar lan Llyn Dinas. 

Mae anecs dwy ystafell wely ar gyfer croesawu twristiaid hefyd yn rhan o’r denantiaeth.  

Dywedodd Ioan eu bod yng nghanol eu tymor wyna cyntaf ar hyn o bryd.

"Da ni wedi bod yn brysur dros y misoedd diwethaf yn dod i adnabod y fferm a’r dirwedd, ac yn ymgynefino a gofalu am ein praidd o 65 o ddefaid," meddai. 

"Ar hyn o bryd rydyn ni yng nghanol ein tymor wyna cyntaf. Yn ffodus, mae’r tywydd wedi bod yn wych, sy’n help garw ar gyfer wyna."

Image
Llyndy Isaf

Ychwanegodd: "Rydym hefyd yn chwilio am heffrod duon i’w prynu fel ein bod ni’n gallu dechrau ein buches ein hunain."

Mae’r cwpwl wedi dewis byw yn yr anecs am nawr gan osod y ffermdy pedair ystafell wely fel cartref gwyliau. 

"Mae’r ffermdy yn llawn ar gyfer y mis yma felly mae pethau’n mynd yn dda," meddai Sara.

Mae Ioan a Sara hefyd wedi bod yn gweithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Pharc Cenedlaethol Eryri er mwyn trafod creu maes parcio ychwanegol ar gyfer cerddwyr ac i agor maes pebyll ar y tir yn yr haf. 

Dywedodd Trystan Edwards, rheolwr cyffredinol Eryri yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol: "Cafodd Ioan a Sara eu rhoi ar brawf dros gyfnod o dair wythnos gan ddangos i ni pa mor dda roeddent yn deall rôl ffermio a byd natur mewn amgylchedd mor arbennig â hwn. 

"Mae’r fferm yn sicr o fynd o nerth i nerth dan eu gwarchodaeth ofalus, ac rwy’n dymuno’r gorau iddynt."

Cafodd y gyfres gyntaf o Our Dream Farm gyda Matt Baker ei darlledu yn 2024 pan wnaeth yr arwerthwr da byw Adam Grieve, a’i wraig Jenny lwyddo i sicrhau tenantiaeth 10 mlynedd ar fferm 340 acer ar Ystâd Wallington yn Northumberland. 

Lluniau: Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.