YouTube wedi 'dylanwadu ar genhedlaeth' 20 mlynedd ers cael ei sefydlu
YouTube wedi 'dylanwadu ar genhedlaeth' 20 mlynedd ers cael ei sefydlu
Fideo cyntaf platfform YouTube, 20 mlynedd yn ôl.
A'r 20 mlynedd ers hynny wedi gweld ei boblogrwydd yn tyfu a thyfu.
Dechrau yn 2005 fel platfform arbrofol i rannu fideos byrion oedd bwriad YouTube, ond bellach wedi troi'n ffenomen fyd-eang.
Eleni, mae'n dathlu 20 mlynedd o gynnwys.
Mae pobl ifanc heddiw yn troi at fideos fel hyn ar gyfer eu hadloniant.
"Mae lot o sdwff ti'n gallu gwylio, tutorials, gaming a bron unrhyw beth.
"Ti'n gallu searchio lan be ti'n moyn a dim pigo channel."
Yn ôl adroddiadau Ofcom yn 2023 YouTube yw'r platfform ar-lein mwyaf poblogaidd o hyd ymhlith plant a phobl ifanc 3 i 17 oed yn y DU gydag 88% yn ei ddefnyddio'n rheolaidd.
A YouTube yn cynnig cyfle i greu bywoliaeth erbyn hyn.
A gŵr ifanc o Aberdâr yn brawf o hynny.
"Dechreuais yn 2021 pan wnes i uploadio pob dydd.
"Dyddiau yma, mae YouTube mor enfawr. Mae'n ddyfodol i bobl sy'n moyn gweithio ar YouTube am yr hirdymor."
Nôl ar fuarth yr ysgol, mae pryder hefyd ynghylch diogelu pobl ifanc rhag gweld cynnwys anaddas a niweidiol.
"Mae testunau allan yna. Yn aml, ni'n clywed am bobl yn mynd lawr trywydd cael mynediad i fideos sydd ddim yn addas i bobl ifanc a phlant."
"Mae pobl yn rhoi pethau inappropriate ar YouTube.Mae pobl yn postio amdano, felly bydd pobl ifanc yn gweld e."
Yn ôl un arbenigwr yn y maes digidol, addysgu am yr hyn sy'n medru cael ei wneud i ddiogelu pobl ifanc yw'r neges.
"Mae 'na bethau fel supervised access sy'n rhoi'r pwer i rieni i gau off pethau penodol ar y platfform.
"Mae diogelwch ar y platfform, ond mae modd gwneud mwy."
20 mlynedd o gynnwys a 5.1 biliwn fideo yn ddiweddarach mae YouTube wedi sefydlu ei hun ym mywyd yr 21ain ganrif.
Gyda nifer y defnyddwyr yn codi flwyddyn ar ol blwyddyn pwy a wyr be fydd hanes YouTube yn 2045.