Newyddion S4C

Canu yn 'therapi' i fenyw ifanc ar ôl dioddef strôc yn 20 oed

Canu yn 'therapi' i fenyw ifanc ar ôl dioddef strôc yn 20 oed

Mae canu wedi bod yn "therapi" i fenyw ifanc o Sir Gaerfyrddin ar ôl iddi ddioddef strôc yn 20 oed.

Ym mis Hydref 2019, fe wnaeth Nia Tyler o Rydaman ddioddef strôc pan oedd hi yn ei thrydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Surrey.

A hithau'n fis ymwybyddiaeth strôc, mae Nia yn cofio am y cyfnod hwnnw.

Roedd ail wythnos y flwyddyn brifysgol newydd ddod i ben, ond ar y bore Sadwrn, fe wnaeth hi ddeffro gyda chur pen dychrynllyd.

Gyrrodd ei mam yn syth i Surrey ac arhosodd gyda Nia ac erbyn diwedd yr wythnos, roeddent wedi penderfynu teithio yn ôl i Rydaman.  

“Cefais sgan CT wythnos yn ddiweddarach. Pan gyrhaeddodd y canlyniadau ... yn sydyn, roedd hi’n banig mawr,” meddai Nia.

"Dywedodd doctoriaid wrtha i fod gen i glot gwaed ar yr ymennydd."

'Corff cyfan yn cau'

Newidiodd ei bywyd dros nos a bu'n rhaid i Nia aros yn yr ysbyty am bythefnos. Yna symudodd adref at ei rhieni ac roedd yn rhaid iddi adael y brifysgol.

“Roeddwn i'n byw yn ystafell fyw fy rhieni, gyda llenni oedd ddim yn gadael golau mewn," meddai.

“Prin y gallwn gerdded i’r gegin i wneud paned o de.

“Nid oeddwn i'n gallu gweithredu fel person normal mwyach. Roeddwn i'n flinedig trwy'r amser.

"Nid oedd fy ymennydd yn gweithio’r un fath ac roedd fy iechyd meddwl y gwaethaf y bu erioed.

“Nid yw pobl yn deall effaith strôc, nid blinder yw e. Mae e fel cael y ffliw, mae’ch corff cyfan yn cau a chysgu yw’r unig beth sydd o gymorth.”

'Dal i ganu'

Mae mwy na thraean o oroeswyr strôc (35%) yn gallu canu’n well na siarad ar ôl eu strôc, yn ôl ymchwil newydd gan y Gymdeithas Strôc.

Gwnaeth yr elusen arolwg o 1,000 o oroeswyr strôc ledled y Deyrnas Unedig gan ddarganfod fod traean o oroeswyr (33%) wedi colli’r gallu i siarad ar ôl eu strôc, tra gallai dros draean (35%) ganu’n well na siarad yn y dyddiau, wythnosau a misoedd cyntaf ar ôl eu strôc.

Fe wnaeth Nia Tyler gystadlu ar gyfres gyntaf Y Llais ar S4C eleni.

Cyrhaeddodd y rownd gyn-derfynol wrth iddi gael ei mentora gan Syr Bryn Terfel.

Mae'r fenyw 26 oed wedi newid ei gyrfa ar ôl cael strôc wrth iddi sylweddoli pa mor "fyr mae bywyd yn gallu bod."

“Mae canu bob amser wedi bod yn therapi i mi,” meddai.

“Ond ar ôl y strôc, ni allwn siarad, byddai gwneud hynny yn rhoi cur pen imi, roedd yna ormod o bwysau.”

“Ni chyrhaeddais rownd derfynol Y Llais, ond...dwi dal yma, yn dal i ganu, yn dal i fyw.”  

Mae hi erbyn hyn yn gweithio gyda’r Forget Me Not Chorus, yn canu mewn cartrefi gofal gyda phobl sy’n byw â dementia.  

"Mae’n un o fy hoff bethau. Mae cerddoriaeth yn cysylltu pawb — mae hyd yn oed pobl sy’n ei chael hi’n anodd siarad dal wrth eu bodd yn canu.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.