Heddlu gwrthderfysgaeth yn ymchwilio i sylwadau'r band Kneecap
Mae heddlu gwrthderfysgaeth yn ymchwilio i fand Kneecap ar ôl i fideos ddod i'r golwg lle mae'n ymddangos bod y band yn annog torf i ladd aelod seneddol ac yn lleisio cefnogaeth i Hamas a Hezbollah.
Mae nifer o gyngherddau'r band rap o Belfast wedi cael eu canslo ar ôl i fideo ddod i'r golwg lle mae'n ymddangos bod un o aelodau'r band yn cyhoeddi "Up Hamas, up Hezbollah" o lwyfan mewn cyngerdd ym mis Tachwedd y llynedd.
Mewn fideo arall, mae'n ymddangos bod un o aelodau'r band yn dweud "The only good Tory is a dead Tory...kill your local MP" o lwyfan cyngerdd yn 2023.
Mae’r band wedi ymddiheuro i deuluoedd ASau gafodd eu llofruddio ond maen nhw'n honni bod fideos o’r digwyddiad wedi cael eu "hecsbloetio".
Maen nhw hefyd wedi dweud nad ydyn nhw "erioed wedi cefnogi" Hamas na Hezbollah.
Mae Hamas ac Hezbollah wedi eu gwahardd yn y DU ac mae eu cefnogi nhw'n gyhoeddus yn anghyfreithlon.
Mewn datganiad ddydd Iau, dywedodd Heddlu’r Met eu bod yn ymchwilio i'r band.
"Ar 22 Ebrill, cawsom wybod am fideo ar-lein y credir ei fod yn dod o ddigwyddiad cerddoriaeth yn Llundain ym mis Tachwedd 2024," meddai llefarydd.
"Yn dilyn hyn, cawsom wybod am fideo pellach, y credir ei fod yn dod o ddigwyddiad cerddorol arall yn Llundain ym mis Tachwedd 2023.
"Cafodd y ddwy fideo eu cyfeirio at yr Uned Atgyfeirio Gwrthderfysgaeth ar y Rhyngrwyd i’w hasesu gan swyddogion arbenigol, sydd wedi penderfynu bod sail i ymchwilio ymhellach i droseddau posibl sy’n gysylltiedig â’r ddau fideo.
"Mae’r ymchwiliad nawr yn cael ei gynnal gan swyddogion o uned Rheoli Gwrthderfysgaeth y Met ac mae ymholiadau’n parhau ar hyn o bryd."
Mewn datganiad ar Instagram, fe wnaeth y band annerch teuluoedd Syr David Amess a Jo Cox, gan ddweud "nid oeddem erioed wedi bwriadu achosi niwed i chi" a’u bod yn "gwrthod unrhyw awgrym y byddem yn ceisio ysgogi trais yn erbyn unrhyw AS neu unigolyn".
Cafodd Syr David Amess ei ladd yn 2021. Bu farw Jo Cox yn 2016 ar ôl cael ei saethu a’i thrywanu.