Disgwyl 'diwrnod poethaf y flwyddyn' hyd yma
Mae disgwyl i ddydd Iau fod y diwrnod poethaf y flwyddyn hyd yn hyn gyda’r Swyddfa Dywydd yn rhagweld y gallai’r tymheredd gyrraedd 30°C.
Gallai’r DU wynebu’r dechrau cynhesaf i fis Mai erioed, gyda meteorolegydd y Swyddfa Dywydd Michael Silverstone yn dweud y gallai’r tymheredd godi i “29°C neu hyd yn oed 30°C”.
Ychwanegodd: “Os byddwn yn cyrraedd 30°C ddydd Iau, dyma fydd y dyddiad cynharaf ym mis Mai y mae’r DU wedi gweld 30°C ers i’n cofnodion ddechrau ym 1860.”
Dywedodd y Swyddfa Dywydd fod y tymheredd wedi cyrraedd 26.7°C yn Wisley, Surrey ddydd Mercher, gan ei wneud y diwrnod cynhesaf o’r flwyddyn hyd yn hyn.
Fe allai'r tymheredd godi i hyd at 27°C mewn rhannau o dde ddwyrain Cymru.
Ond mae disgwyl i’r tymheredd ostwng erbyn dydd Gwener, a bydd dydd Sadwrn yn oerach ac yn amrywio o 14°C i 18°C ledled y DU.