Newyddion S4C

Y blychau pleidleisio wedi agor mewn rhannau o Loegr

Blwch pleidleisio

Mae gorsafoedd pleidleisio wedi agor mewn rhannau o Loegr fore Iau gydag etholiadau lleol ac is-etholiad yn cael eu cynnal.

Mae yna etholiadau yn cael eu cynnal mewn 24 allan o 317 o gynghorau Lloegr a chwe awdurdod maerol.

Bydd is-etholiad hefyd yn cael ei gynnal yn etholaeth Runcorn a Helsby yn Sir Gaer ddydd Iau.

Mae'r blychau pleidleisio yn agor am 07.00 ac yn cau am 22.00. Mae disgwyl y bydd canlyniadau yn cael eu cyhoeddi yn ystod y nos ac ar ddydd Gwener.

Fe fydd tua 1,650 o seddi yn y fantol mewn 14 cyngor sir, wyth cyngor unedol, un ardal metropolitan ac ar Ynysoedd Syllan, yng Nghernyw.

Bydd y chwe etholiad maerol yn cael eu cynnal yng Ngorllewin Lloegr, Sir Caergrawnt a Peterborough, Doncaster a Gogledd Tyneside, Hull a Dwyrain Sir Efrog, a Sir Lincoln Fwyaf.

Daw'r is-etholiad wedi i Mike Amesbury, oedd yn cynrychioli’r blaid Lafur, ymddiswyddo wedi iddo gael dedfryd o 10 wythnos o garchar wedi’i gohirio. 

Roedd y cyn aelod seneddol yn San Steffan wedi pledio'n euog i daflu dwrn at etholwr yn Frodsham yn Sir Gaer y llynedd. 

Dyma fydd yr etholiad lleol cyntaf yn Lloegr ers yr Etholiad Cyffredinol yr haf diwethaf. 

Mae 15 o ymgeiswyr yn gobeithio cael eu hethol yn aelod seneddol i gynrychioli’r etholaeth ddydd Iau. 

Dyma restr lawn o’r ymgeiswyr: 

  • Catherine Anne Blaiklock, Democratiaid Lloegr 

  • Dan Clarke, Plaid Ryddfrydol

  • Chris Copeman, Y Blaid Werdd

  • Paul Duffy, Democratiaid Rhyddfrydol

  • Peter Ford, Plaid y Gweithwyr 

  • Howling Laud Hope, Plaid Monster Raving Loony

  • Sean Houlston, Y Blaid Geidwadol

  • Jason Philip Hughes, Volt UK

  • Alan McKie, Annibynnol

  • Graham Harry Moore, Plaid Gyfansoddiad Lloegr 

  • Paul Andrew Murphy, y Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol 

  • Sarah Pochin, Reform

  • Karen Shore, Llafur

  • John Stevens, Rejoin EU

  • Michael Williams, Annibynnol

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.