Arestio tri yn dilyn marwolaeth dyn yng Nghaernarfon
Mae tri o bobl wedi cael eu harestio yn dilyn marwolaeth dyn yng Nghaernarfon.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod wedi cael eu galw am 12:11 ddydd Sadwrn i ymateb i farwolaeth dyn mewn cyfeiriad ar Ffordd Maes Barcer yn y dref.
Fe gafodd tri o bobl eu harestio mewn cysylltiad â'r digwydd ac mae'r ymchwiliad yn parhau yn ôl yr heddlu.
Mae'r llu yn annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod C059028.
Mae'r dyn fu farw wedi ei enwi yn lleol fel Dylan Evans.