Y Fonesig Shirley Bassey yn un o noddwyr Gwobrau Cerddoriaeth Ddu Cymru
Mae Gwobrau Cerddoriaeth Ddu Cymru wedi cyhoeddi y bydd y Fonesig Shirley Bassey yn un o noddwyr y digwyddiad.
Bydd y Gwobrau yn cael eu cynnal ym mis Hydref yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Nod y gwobrau, meddai'r trefnwyr, yw cydnabod a dathlu cyfraniadau artistiaid, pobl greadigol ac arweinwyr y diwydiant cerddoriaeth Du yn y sîn gerddoriaeth Gymreig.
Dywedodd y trefnwyr bod eu noddwyr bellach yn cynnwys y Fonesig Shirley Bassey, Syr Nicholas Young a Levi Roots, gyda Dr Tony Eze yn llywydd oes.
Dywedodd y Fonesig Shirley Bassey ei fod yn “anrhydedd” cael noddi'r gwobrau.
“Rwy’n aml yn meddwl - tybed a deithiais y byd er mwyn i mi allu canu, neu a ganais er mwyn cael teithio’r byd?” meddai.
“Fel merch fach, yr ieuengaf o saith, yn byw yn Y Sblot, ni fyddwn byth wedi breuddwydio y byddai’r naill na’r llall o’r uchod yn opsiwn i mi!”
Ychwanegodd: “Drwy gydol fy ngyrfa, dros saith degawd, torrais drwy lawer o rwystrau.
“Mae gwybod bod fy ngherddoriaeth a fy stori wedi ysbrydoli talent ifanc yn gwneud i mi deimlo’n wirioneddol ostyngedig.
“Mae'n anrhydedd i mi fod yn noddwr Gwobrau Cerddoriaeth Ddu Cymru sy'n cefnogi cynhyrchwyr, artistiaid a phobl greadigol amrywiol yng Nghymru.”
Bydd y Gwobrau Cerddoriaeth Ddu Cymru cyntaf ar 4 Hydref rhwng 12.00 a 17.00 yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar Heol y Gogledd Caerdydd.
Bydd y gwobrau yn cynnwys Artist Newydd Gorau, Trac y Flwyddyn, Albwm y Flwyddyn, a’r Trac Cymraeg Gorau.