
'Y swydd ddelfrydol': Y Cymro sydd tu ôl i'r camera gyda Leeds United
Mae rhai o chwaraewyr Cymru wedi serennu i Leeds United eleni, ond oddi ar y cae mae yna Gymro arall yn gweithio'n galed tu ôl i'r llenni.
Mae Dylan Scarborough o Gasnewydd yn gynhyrchydd cyfryngau digidol y clwb, ac felly yn gyfrifol am holl gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Leeds.
O greu fideos i'w cyfrif TikTok i gynnal cyfweliadau gyda chwaraewyr, mae'r clwb wedi gweld twf yn nifer eu dilynwyr ers i Dylan ymuno ym mis Mawrth 2023.
Bellach mae gan y clwb 1.8 miliwn o ddilynwyr ar TikTok, 1.5 miliwn o ddilynwyr ar Facebook a dros filiwn yr un ar Instagram ac X.
"Dwi'n creu cynnwys i bob dim, o TikTok, X, Instagram, Facebook ac mae'n gallu bod yn unrhyw beth o gyfweliadau gyda chwaraewyr, cynnwys cyn gemau ac ar ôl gemau," meddai Dylan wrth Newyddion S4C.
"Wna i edrych i weld os allai manteisio ar unrhyw trends a chynyddu nifer ein likes a dilynwyr. Felly er enghraifft os ydyn ni'n ennill 2-0 nai edrych i weld pa trends sydd yn gallu gweithio i ni."

Dechreuodd Dylan yn y swydd yn yr un flwyddyn y syrthiodd Leeds o'r Uwch Gynghrair i'r Bencampwriaeth.
Dywedodd bod creu cynnwys digidol yn y cyfnod hwnnw yn gallu bod yn heriol gan nad oedd y clwb yn perfformio ar y cae.
"Mae rhai o'r fideos sydd yn gwneud yn wych mor wallgof weithiau, ac mae'n gallu bod yn rhwystredig os ydych chi'n neidio ar trend a bod Leeds ddim yn perfformio," meddai.
"Bydd cefnogwyr yn gadael sylwadau yn dweud bod y fideo yn dwp achos bod ni'n colli, a mae'n gallu bod yn anodd i ni.
"Roedd y misoedd cyntaf yn anodd oherwydd roedd Leeds wedi disgyn i'r Bencampwriaeth pan oeddwn i ddau fis mewn i'r swydd.
"Felly oedd unrhyw fath o gynnwys oedd gennym ni yn gorfod cael ei osod i un ochr am rai misoedd, yn enwedig ar TikTok achos byddai'r cefnogwyr yn gadael sylwadau negyddol."
Cymry Leeds United
Bydd Leeds yn chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr tymor nesaf ar ôl ennill dyrchafiad ar ddydd Llun y Pasg.
Mae Joe Rodon, Ethan Ampadu, Dan James a Karl Darlow wedi chwarae eu rhan wrth sicrhau'r dyrchafiad.
Ar y cae ac oddi ar y cae, mae Dylan yn dweud bod y perthynas agos rhwng y chwaraewyr yn amlwg i'w weld.
"Y bois Cymraeg yw'r bois mwyaf caredig erioed, ac maen nhw'n ffrindiau da," meddai.
"Chi'n gallu gweld hwnna ar y cae yn y ffordd maen nhw'n chwarae gyda Leeds a Chymru, ac maen nhw'r un mor agos oddi ar y cae.
"Mae gen i berthynas da gyda nhw hefyd. Dwi'n cofio gwneud cyfweliad gyda Joe Rodon ar ôl un o gemau yng Nghwpan yr FA a dywedais fod gen i deulu o Abertawe, o le mae Rodon yn dod.
"Roedd fy nheulu o Orseinon lle me ganddo e deulu hefyd, ac roedd e wrth ei fodd a'n hynod gyffrous."

'Swydd ddelfrydol'
Fe wnaeth Dylan, sy'n 25 oed raddio o Brifysgol Sir Gaerloyw yn 2021 a dechrau ei yrfa yn y byd newyddiaduraeth chwaraeon gyda'r clwb mae'n gefnogi, Casnewydd.
Aeth ymlaen i weithio i'r Amwythig cyn cychwyn ei swydd bresennol gyda Leeds.
Yn gefnogwr pêl-droed brwd, mae Dylan yn dweud bod ganddo'r swydd ddelfrydol ac yn gobeithio un dydd gweithio i Gymdeithas Bêl-droed Cymru.
"Un peth dwi'n cymryd yn ganiataol yw fy mod i'n cael fy nhalu i wylio pêl-droed, ac mae hynny'n anghredadwy achos pêl-droed yw fy mywyd," meddai.
"Dwi'n caru creu cynnwys digidol ar ôl i Leeds ennill, a dwi wir wedi trial gwerthfawrogi hwnna eleni.
"I weithio gyda'r bois o Gymru fyd, dyna un o'r pethau gorau am y swydd.
"Hoffwn i weithio i Gymru un diwrnod mewn Cwpan y Byd neu Euros. Byddwn i wrth fy mod yn teithio tramor gyda fy swydd hefyd achos dyw hynny ddim yn rhywbeth dwi wedi gwneud yn iawn eto.
"Ond dwi yn y swydd ddelfrydol ar hyn o bryd, ac os ydy Leeds United yn gallu aros yn yr Uwch Gynghrair am gyfnod yna fyddai'n hapus iawn."