Sir Gâr: Arestio dau ar ôl dod o hyd i ganabis yn tyfu mewn pentref
Mae dau ddyn wedi cael eu harestio ar ôl i’r heddlu ddod o hyd i ganabis yn tyfu mewn pentref yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin.
Cafodd dros 80 o blanhigion canabis a 700 gram o’r cyffur eu meddiannu o adeilad ym Mlaenwaun, sydd rhwng Caerfyrddin a Chrymych.
Cafodd dyn 51 oed ei arestio ar amheuaeth o ymwneud â chynhyrchu canabis, gan gynnwys tyfu’r cyffur, a hefyd o ddefnyddio trydan heb ganiatâd. Mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Arestiwyd ail ddyn, 20 oed, hefyd ar amheuaeth o ymwneud â chynhyrchu canabis, gan gynnwys ei dyfu, a defnyddio trydan heb ganiatâd, ac fe gafodd ei ryddhau dan ymchwiliad.
“Bydd trigolion yn gweld mwy o weithgarwch heddlu yn yr ardal wrth i'r ymchwiliad barhau ac wrth i ni gynnig sicrwydd i’r gymuned,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys.