Gwyliwch: Heddlu yn taro drws tŷ yng Nghaernarfon i lawr wrth chwilio am gyffuriau
Gwyliwch: Heddlu yn taro drws tŷ yng Nghaernarfon i lawr wrth chwilio am gyffuriau
Mae dyn o Gaernarfon wedi cael ei arestio ar amheuaeth o feddu ar gyffuriau dosbarth A gyda'r bwriad o'u cyflenwi.
Roedd Heddlu'r Gogledd wedi taro drws y dyn 33 oed i lawr yn y dref fore Mawrth wrth geisio cael mynediad i'r eiddo.
Dywedodd yr heddlu bod ganddyn nhw warant camddefnyddio cyffuriau.
Mewn fideo a gafodd ei rannu gan yr heddlu roedd swyddogion yn taro drws yr eiddo sawl gwaith gyda hwrdd curo (battering ram).
Cafodd y dyn 33 oed hefyd ei arestio mewn cysylltiad gyda throseddau gwyngalchu arian a bod mewn meddiant arf.
Mae'n cael ei gadw yn y ddalfa ac yn cael ei holi gan swyddogion.
Dywedodd yr arolygydd Ian Roberts bod yr heddlu yn "parhau i gymryd cyffuriau, arfau ac arian oddi ar y strydoedd" yng ngogledd Gwynedd.