Teyrnged i ddyn fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A55
Mae teulu dyn a fu farw wedi gwrthdrawiad ar yr A55 ym Modelwyddan yr wythnos diwethaf wedi rhoi teyrnged iddo.
Roedd David Emrys ‘Junior’ Williams yn 35 oed ac yn dod o ardal Cyffordd Llandudno.
Cafodd dyn 62 oed ei arestio mewn cysylltiad â'i farwolaeth, ac mae bellach wedi ei ryddhau o dan ymchwiliad wrth i ymholiadau barhau.
Mewn teyrnged iddo, dywedodd ei deulu: "Roedd David yn fab annwyl i Sharon a David, brawd i Gemma a James, tad arbennig i Harry, Henry a Hayden a chyn-bartner i Jenny.
"Does dim geiriau i egluro cymaint y mae ein calonnau wedi eu torri, ac fe fydd dy deulu a dy ffrindiau yn dy fethu gymaint."
Mae'r ymchwiliad i sefydlu achos y gwrthdrawiad yn parhau ac mae swyddogion yn apelio am dystion i'r gwrthdrawiad a ddigwyddodd yn ystod oriau mân fore Mawrth, 15 Ebrill ar lôn orllewinol yr A55 ger Gwasanaethau Cinmel ym Modelwyddan.
Mae'r Heddlu yn annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod 25000307865.