MOTD: Gary Lineker 'yn credu fod y BBC am iddo adael' wedi ei drydaru dadleuol
Mae Gary Lineker wedi dweud ei fod yn credu fod y BBC eisiau iddo adael y rhaglen Match Of The Day, a’i fod yn difaru’r “niwed” a wnaed gan ei ddefnydd o gyfrwng cymdeithasol X/Twitter.
Bydd y cyflwynydd MOTD yn gadael y swydd ar ôl cyflwyno’r darllediadau o Gwpan y Byd 2026 yn yr Unol Daleithiau, Mecsico a Chanada.
Dywedodd Lineker, 64 oed, sydd wedi bod yn gweithio fel cyflwynydd ar y rhaglen uchafbwyntiau ers 1999, ei fod yn “amser gadael”.
“Rwyf wedi gwneud y gwaith ers amser maith, mae wedi bod yn wych”.
Awgrymodd fod BBC eisiau iddo adael y swydd drwy ddweud: “Wel, efallai eu bod am i mi adael… Roedd yna ymdeimlad o hynny.”
“Roeddwn i wastad eisiau un cytundeb arall,” meddai. “Roedd yn well ganddyn nhw i mi beidio â gwneud Match Of The Day am flwyddyn arall er mwyn iddyn nhw allu dod â phobl newydd i mewn.
“Felly mae ychydig yn anarferol y byddwn i’n gwneud Cwpan FA Lloegr a Chwpan y Byd, ond, a dweud y gwir, mae’n senario sy’n gweddu’n berffaith i mi.”
Bydd tri cyflwynydd gwahanol - Kelly Cates, Mark Chapman a Gabby Logan - yn cymryd ei le ar MOTD.
Trydar
Ym mis Mawrth 2023, fe achosodd Gary Lineker gynnwrf wedi iddo gymharu polisi lloches llywodraeth Prydain ar y pryd â’r Almaen yn y 1930au mewn trydariad.
Cafodd ei dynnu oddi ar y rhaglen am gyfnod byr, gan ennyn cefnogaeth newyddiadurwyr a chyflwynwyr chwaraeon eraill, cyn dychwelyd yn ôl i MOTD.
Wrth siarad am ei drydariadau, dywedodd nad oedd yn “difaru eu dweud yn gyhoeddus, oherwydd roedden nhw’n iawn… roedd yr hyn a ddywedais yn gywir”.
Ond, dywedodd na fyddai yn eu gwneud eto wrth edrych yn ôl.
“Na, fyddwn i ddim, oherwydd yr holl nonsens a ddaeth yn ei sgil," meddai.
“A dwi’n caru’r BBC,” meddai, “a doeddwn i ddim yn hoffi’r niwed a wnaeth i’r BBC… ond ydw i’n difaru ac ydw i’n meddwl mai dyna oedd y peth anghywir i’w wneud? Na.
“Pam na ddylwn i gael barn ar bethau? Dwi’n bêl-droediwr sydd wedi troi’n gyflwynydd chwaraeon.”
Pan ymddiswyddodd, roedd adroddiadau ei fod yn agored i aros ymlaen yn MOTD ond na chafodd gynnig cytundeb newydd ar gyfer y rhaglen.