Newyddion S4C

Trafferthion i deithwyr trên am fod angen trwsio pont ger Caerdydd

21/04/2025
Trên - Trafnidiaeth Cymru

Mae gwaith atgyweirio brys ar bont ger gorsaf Caerdydd Canolog wedi effeithio ar deithwyr trên yn y de ar Lun y Pasg. 

Daeth rhybudd y byddai hynny yn amharu ar deithiau, gyda rhai yn cael eu canslo, ac roedd disgwyl i'r trafferthion barhau tan ddiwedd gŵyl y banc, nos Lun. 

Ond daeth cadarnhad brynhawn Llun y byddai'r gwaith ar y bont yn parhau ddydd Mawrth hefyd.  

Mae hynny'n effeithio ar wasanaethau Cross-Country rhwng Canol Caerdydd a Bryste, Birmingham a Nottingham, gwasanaethau Great Western rhwng Bryste-Temple Meads a Chanol Caerdydd yn ogystal â Bryste-Parkway ac Abertawe.   

Ac mae'n effeithio hefyd ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru rhwng Canol Caerdydd a Bae Caerdydd, Glyn Ebwy, Pontypridd,  Merthyr, Aberdâr, Treherbert, rhwng Ynys y Barri a Chaerffili, a rhwng Penarth a Heol Y Frenhines, Caerdydd. 

Mae teithwyr yn cael eu hannog i wirio'r manylion diweddaraf cyn teithio. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.