
'Adeiladodd bontydd o undod': Teyrngedau o Gymru a'r byd i'r Pab Ffransis
'Adeiladodd bontydd o undod': Teyrngedau o Gymru a'r byd i'r Pab Ffransis
Mae teyrngedau yn llifo o Gymru a gweddill y byd i'r Pab Ffransis a fu farw ar fore Llun y Pasg yn 88 oed.
Roedd Archesgob Cymru, Y Parchedicaf Andrew John ymhlith y cyntaf i roi teyrnged iddo.
"Gyda thristwch dwysaf y clywais am farwolaeth y Pab Ffransis. Gyda'i farwolaeth, mae'r byd wedi colli arweinydd yr oedd ei gariad, ei dosturi a'i ofal dros y tlawd a'r rhai ar yr ymylon yn deilwng o'r Sant y dewisodd gymryd ei enw.
"Mae gennyf atgofion hapus iawn o’n cyfarfod yn y Fatican fis Rhagfyr 2023 pan siaradom am Gymru a phan gyflwynais anrheg symbolaidd iddo.
"Yn yr Eglwys yng Nghymru, ymunwn mewn gweddi gyda’n brodyr a’n chwiorydd yn yr Eglwys Gatholig Rufeinig wrth iddynt deimlo colled eu Tad Sanctaidd, a diolchwn gyda hwy am fywyd o ffydd sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth i filiynau."
Dywedodd yr Archesgob Mark O'Toole - Archesgob etholedig Caerdydd ac Esgob Etholedig Mynyw fod y Pab wastad wedi ei "herio i wneud yn well ac i fod yn ffyddlon i Iesu Grist."

Adeiladu pontydd
Mewn datganiad, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan: "Fel Prif Weinidog Cymru, ac fel Cristion, rwy’n cydymdeimlo’n ddwys â’r gymuned Gatholig yng Nghymru ac o gwmpas y byd ar hyn o bryd.
"Arweiniodd y Pab Ffransis gyda gostyngeiddrwydd diwyro, dewrder a thosturi. Trwy gydol ei babaeth, bu'n eiriolwr diflino dros y tlawd, pobl ar y cyrion a’r rhai sydd wedi eu dadleoli.
Cyfeiriodd at ei ymdrechion yn ceisio mynd i'r afael â'r heriau yn y byd.
"Atgoffodd bob un ohonom nad tasg wleidyddol neu gymdeithasol yn unig yw’r frwydr yn erbyn tlodi, newid hinsawdd ac anghyfiawnder, ond galwad foesol. Roedd ei neges yn glir: mae pob person, waeth beth fo'u cefndir, hil, neu rywioldeb, yn haeddu urddas, parch a chariad.
"Yn ei fisoedd olaf, siaradodd ag eglurder moesol, gan gondemnio’r hyn y cyfeiriodd ato fel yr ‘hil-laddiad’ yn Gaza, gan annog y byd i gydnabod dynoliaeth yr holl bobl ac i ddewis heddwch dros ddinistr.
"Mewn byd sy’n aml yn teimlo’n rhanedig, adeiladodd y Pab Ffransis bontydd o undod a bydd ei etifeddiaeth yn parhau yn y bywydau y cyffyrddodd â nhw a’r gwerthoedd a hyrwyddodd - gwerthoedd sy’n parhau i’n hysbrydoli ni yma yng Nghymru."
Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: "Yn meddwl heddiw am y gymuned Gatholig ledled Cymru a'r Byd yn dilyn marwolaeth Ei Sancteiddrwydd Pab Francis.
"Fel ymgyrchydd brwd dros heddwch a chyfiawnder cymdeithasol, bydd Pab Francis yn cael ei gofio gyda charedigrwydd, a bydd ei waith yn cael effaith barhaus ledled y byd."
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar iddo gwrdd â'r Pab fis Awst y llynedd.
"Siaradodd gydag angerdd am heddwch a chyfiawnder," meddai.
"Roedd e wir yn ddyn rhyfeddol."

Dywedodd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig Syr Keir Starmer y byddai ymdrechion y Pab i sichrau byd tecach i bawb yn parhau.
"Roedd ei arweinyddiaeth mewn cyfnod cymhleth a heriol i'r byd a'r Eglwys yn ddewr, ac eto roedd yn hynod o wylaidd," meddai.
Cyfeiriodd Syr Keir Starmer ato fel "Pab ar gyfer y tlodion a'r rhai sydd wedi eu hanghofio."
'Gofal dros bobl a'r blaned'
Yn gynharach y mis hwn, cafodd y Brenin Charles III a'r Frenhines Camilla gyfarfod â'r Pab.
Mewn teyrnged fore Llun, dywedodd y Brenin Charles iddo fe a'i wraig ymweld â'r Pab ar sawl achlysur, a bod ganddynt atogofion melys o'r cyfnodau hynny.
"Trwy ei waith a'i ofal dros bobl a'r blaned, llwyddodd i gyffwrdd â bywydau cynifer," meddai.

Bu farw'r Pab lai na phedair awr ar hugain wedi iddo ymddangos ar Sgwâr San Pedr ar Sul y Pasg pan gyhoeddodd neges fer iawn yn dymuno Pasg Hapus i filoedd a oedd wedi ymgynnull yno.
"Mae ein tristwch yn cael ei leddfu rywfaint, am fod ei Sancteiddrwydd wedi medru rhannu ei neges Basg gyda'r Eglwys a'r byd," ychwanegodd y Brenin.
Mae baner yr undeb wedi ei gostwng i hanner mast ar gartrefi'r Brenin er mwyn nodi'r farwolaeth.
Mae'r Tŷ Gwyn wedi rhoi teyrnged i'r Pab ar gyfrwng cymdeithasol X gan nodi: "Cwsg mewn hedd y Pab Ffransis."
Cafodd llun o'r Arlywydd Trump gyda'r Pab ei gynnwys hefyd, yn ystod ei ymweliad â'r Fatican yn 2017.
Dywedodd Arlywydd Wcráin Volodymyr Zelensky fod y Pab "yn gwybod sut i roi gobaith, lleddfu dioddefaint drwy weddi, a chreu undod."
Ychwanegodd fod y Pab wedi gweddïo dros Wcráin ac Wcraniaid.
Dywedodd Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin y bydd yn cofio'r Pab Ffransis fel "ddiffynnydd gwerthoedd uchaf dynoliaeth a chyfiawnder."
Dywedodd Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron fod y Pab yn ddyn gwylaidd "a oedd ar ochr y mwyaf bregus."
Ac yn ei theyrnged, nododd Prif Weinidog yr Eidal, Giorgia Meloni "Mae hwn yn newyddion trist iawn i ni. Cefais y fraint o fwynhau ei gyfeillgarwch," meddai.