Newyddion S4C

Chwe Gwlad: Cymru'n colli yn erbyn Iwerddon

Neumann yn y Chwe Gwlad 2025

Colli'n drwm oedd hanes menywod Cymru yn y Chwe Gwlad yng Nghasnewydd ddydd Sul, a hynny o 14-40.

Dechreuodd tîm Sean Lynn yn gadarn ar gae Rodney Parade, gyda chais Carys Cox yn rhoi'r crysau cochion ar y blaen wedi chwe munud o chwarae.

Ond byr oedd y gorfoledd gydag Iwerddon yn taro'n ôl gyda chais gan Linda Djougang yn ei gwneud hi'n 7-7 wedi 19 munud.

Parhau wnaeth y pwysau gan y Gwyddelod, gydag Aoife Wafer yn sgorio cais arall wedi 29 munud.

Roedd Cymru ar ei hôl hi o 7-14 wedi trosiad Dannah O'Brien.

Ond o fewn munudau'n unig fe gafodd O'Brien garden felen am dacl uchel a'i hanfon oddi ar y cae.

Er gwaethaf colli un o'i chwaraewyr, fe aeth Iwerddon ymlaen i sgorio eu trydydd cais o'r gêm - Dorothy Wall y tro hwn yn hawlio'r pwyntiau.

Cymru 7-21 Iwerddon oedd y sgôr ar yr hanner.

O ddrwg i waeth

Fe aeth pethau o ddrwg i waeth i Gymru ar ddechrau'r ail hanner, gyda Wall yn sgorio ei hail gais gyda 43 munud ar y cloc.

Fe wnaeth Iwerddon fanteisio gydag ail gais gan Djougang hefyd yn fuan wedyn, gan gynyddu mantais yr ymwelwyr.

Yn hytrach na digalonni, fe wnaeth Cymru ddal ati a daeth eu haeddiant ar ôl 59 munud gydag ail gais gan Hannah Bluck.

Cymru 12-33 Iwerddon oedd y sgôr wedi awr o chwarae.

Ond roedd mantais gyfforddus gan Iwerddon, gyda Wafer yn sgorio'i hail gais o'r gêm wedi 63 munud.

Fe wnaeth Iwerddon barhau i ymosod tan ddiwedd y gêm, ond ni lwyddodd y crysau gwyrdd i sgorio cais arall.

Y sgôr terfynol: Cymru 14-40 Iwerddon.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.