'Gobaith a llawenydd' yn ganolbwynt i neges y Pasg
Yn ei neges y Pasg eleni, mae Archesgob Cymru yn cyfeirio at fedd yng Nghymru sy'n nodi bywyd dyn o 1,500 o flynyddoedd yn ôl.
Dywedodd y Parchedicaf Andrew John nad oes llawer o wybodaeth am fywyd y "dyn Cristnogol" o'r enw Porius, ond bod pobl yn cofio ei ffydd.
Mae'n dweud ei fod eisiau defnyddio'r ddelwedd yma i chwilio am ystyr dyfnach stori'r Pasg, gyda'r bwriad o ddod o hyd i "obaith".
"Efallai mai’r rhan fwyaf trawiadol o stori’r Pasg yw’r bedd lle mae gennym hyd yn oed llai o wybodaeth i weithio arni," meddai.
"Does dim arysgrif, mynedfa lydan agored, ac amheuaeth ynghylch ei leoliad - nid oes gennym gorff hyd yn oed.
"A dyma’r rhan hollbwysig: roedd y rhai a ddilynodd Iesu yn gwbl sicr bod Duw wedi gwneud rhywbeth hollol newydd ar y diwrnod Pasg cyntaf hwnnw."
Ychwanegodd: "Roedd marwolaeth wedi’i thorri’n agored fel y bedd, ac fe godwyd Iesu i fywyd newydd.
"Pan gyfarfu ei ddilynwyr ag ef, daethant o hyd i bwrpas ac ystyr oedd wedi eu hosgoi o’r blaen.
"Gallent weld dyfodol gyda gobaith a llawenydd."
Fe aeth ymlaen i annog pawb i ymuno mewn addoliad dros benwythnos y Pasg.
"Rwy’n gwahodd pob un ohonoch i rannu rhywbeth o’r un profiad y Pasg hwn, a darganfod cariad Duw a wireddwyd yn Iesu," meddai.
"Bydd ein heglwysi ar agor i bawb dros benwythnos y Pasg, a byddem wrth ein bodd petaech yn ymuno â ni.
"Rwy'n dymuno Pasg hapus iawn i chi."