Ymestyn oriau agor tafarndai i nodi Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop
Bydd tafarndai yn cael aros ar agor dan 01.00 i nodi 80 mlynedd ers Diwrnod VE - Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop.
Mae Prif Weinidog y DU wedi dweud y bydd tafarndai sydd fel arfer yn cau am 11.00 yn cael gwasanaethu am ddwy awr ychwanegol ar ddydd Iau 8 Mai i nodi'r digwyddiad.
Dywedodd Syr Keir Starmer: "Wrth i ni nodi 80 mlynedd ers Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop, dylai’r wlad gyfan ddod at ei gilydd i gofio’r aberthau anhygoel a wnaed gan genhedlaeth y rhyfel ac i ddathlu’r heddwch a’r rhyddid a sicrhawyd ganddynt i ni i gyd.
"Bydd cadw ein tafarndai ar agor am gyfnod hirach yn rhoi’r cyfle i bobl ymuno mewn dathliadau a chodi gwydraid i’r holl ddynion a merched a wasanaethodd eu gwlad, a hynny dramor a gartref."
Mae oriau tafarndai Prydain wedi cael eu hymestyn o’r blaen ar gyfer digwyddiadau o "arwyddocâd cenedlaethol eithriadol".
Mae'r digwyddiadau yma'n cynnwys rownd derfynol Ewro 2024 a rhai dathliadau brenhinol.
Bydd dathliadau Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop yn dechrau ar ddydd Llun 5 Mai.