Newyddion S4C

Achub ci oedd mewn trafferthion ger clogwyn ym Môn

17/04/2025

Achub ci oedd mewn trafferthion ger clogwyn ym Môn

Mae ci oedd mewn trafferthion ger clogwyn ym Môn wedi cael ei achub gan griw'r bad achub. 

Fe aeth Ember, 6, yn sownd wrth glogwyn môr ger Moelfre brynhawn Mercher. 

Roedd gwirfoddolwyr gyda'r bad achub ym Moelfre newydd ddychwelyd o sesiwn hyfforddi pan ddaeth perchennog y ci i'r orsaf bad achub i ofyn am gymorth.

Roedd aelodau o'r cyhoedd wedi clywed Ember yn cyfarth, ond nid oedd modd iddynt ei gweld yn sgil lleoliad y ci. 

Fe wnaeth dau aelod o griw y bad achub nofio at ymyl y clogwyn lle'r oedd y ci yn sownd. 

Dywedodd un o swyddogion bad achub Moelfre, Vince Jones: "Wrth i ni fynd tuag at y dŵr ger y clogwyn, roeddem ni'n gallu clywed y ci yn cyfarth yn uchel. 

"Wedi ychydig eiliadau o siarad gydag Ember, fe wnaeth hi ddechrau tawelu ac ymlacio ac roedd modd i ni roi tennyn arni. 

"Roedd yn hyfryd gweld yr aduniad rhwng y ci a'i pherchennog. 

"Fe wnaeth y perchennog y peth iawn wrth ddod i mewn i'r orsaf bad achub a rhoi gwybod i ni."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.