Gêm Roblox yn ysbrydoli merch o Wynedd i greu busnes
Gêm Roblox yn ysbrydoli merch o Wynedd i greu busnes
Agor siop pop-up ym Mhwllheli – dyna gynllun Alys, 14 oed, dros wyliau’r Pasg.
Ers dros ddwy flynedd, mae Alys wedi bod yn creu gemwaith gyda llaw ac yn eu gwerthu ar-lein.
Ond dros yr wythnos nesaf bydd hi'n gwerthu ei chynnyrch gwydr môr mewn siop am y tro cyntaf.
Dywedodd Alys ei bod wedi penderfynu gwneud hynny ar ôl chwarae'r gêm gyfrifiadurol Roblox, sy'n galluogi defnyddwyr i adeiladu bydoedd digidol.
"Nes i ddechra chwara Roblox i adeiladu siopa a nes i sylwi swn i’n gallu neud hynna yn bywyd go iawn yn lle bod o jyst ar gêm," meddai wrth Newyddion S4C.
"Oedd o’n dysgu fi sut i roi petha yn y siop, sut swn i’n gallu adeiladu fo a dylunio'r layout a ballu."
Yn ôl ymchwil diweddar, mae 62% o genhedlaeth Gen Z ym Mhrydain – pobl sydd wedi'u geni rhwng 1997 a 2012 – yn ystyried cychwyn busnes eleni.
Ymdopi gyda chynnydd costau byw, a manteisio ar sgil neu ddiddordeb yw'r prif resymau dros wneud hynny.
Gwireddu breuddwyd
Fe wnaeth Alys ddysgu sut i wneud gemwaith ar YouTube.
Ers hynny, mae hi wedi bod yn mireinio ei chrefft gyda'r nosau ar ôl ysgol – a'i bwriad yw parhau i ddatblygu'r busnes.
"Dwi'n gobeithio ar ôl gwyliau'r Pasg fydd y siop di helpu busnas fi i gael mwy o ddilynwyr ar-lein," meddai.
"A dwi'n gobeithio fydd hyn yn helpu fi i gal website fy hun hefyd."
A hithau'n casglu'r gwydr môr o draethau Pen Llŷn, breuddwyd Alys yw gwerthu'r gemwaith yn ei chaffi ei hun yn yr ardal.
"Dwi di bod isho caffi ers o'n i’n fach, ac o'n i’n meddwl wedyn swn i’n gallu gwerthu gemwaith am bod dwi bob tro di licio gwisgo gemwaith," meddai.
"Swn i’n gallu cael gemwaith yn caffi fi hefyd, felly mae o’n cyd-fynd."
Dywedodd Sarah, mam Alys, ei bod yn "rili prowd" o'i merch.
"Dwi jyst yn rili prowd ohoni hi, dwi'n meddwl mae'n neis bo hi di cael y profiad o'r pop-up shop ma," meddai.
"So da ni'n ddiolchgar iawn i'r perchennog am gadael i ni fod yma ag y busnesi i gyd yn lleol sy di rhannu posts hi a cefnogi hi.
"Mae'n lyfli gweld y cymuned i gyd yn dod at ei gilydd i supportio hi."