Newyddion S4C

Tanau gwyllt wedi cael 'effaith catastroffig' ar fywyd gwyllt

17/04/2025

Tanau gwyllt wedi cael 'effaith catastroffig' ar fywyd gwyllt

Bryniau Cymru yn llosgi.

Ar ôl wythnosau o danau gwyllt diddiwedd mae glaw y dyddiau diwethaf yn cynnig saib.

Cyfle hefyd i asesu'r difrod i'r amgylchedd.

"Mae'r effaith ar fywyd gwyllt yn hollol catastroffig.

"Mae un ymhob chwech o rywogaethau yng Nghymru yn wynebu difodiad.

"Mae pethau fel y tanau gwyllt, yn ystod fy nghyfnod i yn ymddangos fel eu bod yn digwydd yn fwy cyson.

"Mae hwn yn mynd i wthio rhai rhywogaethau dros y dibyn."

Pa ddyfodol sydd i gywion y dylluan wen yma'n Sir Gaerfyrddin ar ôl i'r tir hela o'u hamgylch losgi'n ulw?

Yng Ngheredigion, doedd y wiber yma'n methu dianc rhag y fflamau tra bod nyth y llygod pengrwn yma wedi'i ddinistrio hefyd.

Mae hi wedi bod yn ddechrau arbennig o ffyrnig i dymor y tanau gwair yng Nghymru eleni.

Ddydd a nos ers wythnosau, mae diffoddwyr wedi bod wrthi'n taclo fflamau mewn llefydd fel hyn ar draws y wlad.

Mae pryderon gwirioneddol am y sgil-effaith ar fywyd gwyllt.

Rhybuddio bod goblygiadau hirdymor i iechyd y pridd ac ansawdd dŵr mae'r rheoleiddiwr amgylcheddol, Cyfoeth Naturiol Cymru tra bydd mawndiroedd sydd wedi llosgi yn rhyddhau carbon deuocsid sy'n cynhesu'r blaned.

"Mae'n dorcalonnus i fi a'r tîm cyfan.

"Ni'n gweld mannau fel hyn a choedwigoedd yn llosgi. Mae rhai mannau ble ni 'di gweithio'n galed dros ben i blannu coed, creu cynefinoedd neu adfer hen rai a'r lle wedi'i cholli mewn mater o oriau.

"Ni'n mesur y mannau wedi llosgi. Ni'n gwybod pwy ddaear sydd 'di llosgi ac yn ei adfer.

"'Na lle mae'r gwaith called yn dechrau.

"Mae ishe edrych ar goedwigoedd, faint o goed sy ishe ei hail-blannu?

"Mae'n gost enfawr."

Mae atal pobl rhag cynnau tanau yn fwriadol yn un her a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi ymweld ag ysgolion i geisio lledu'r neges ymhlith disgyblion cyn gwyliau'r Pasg gan ddod ag anifeiliaid gyda nhw i gynnau diddordeb y plant.

"Yr anifeiliaid sy'n bwysig i nhw.

"Dyna be maen nhw'n meddwl am pan maen nhw'n gweld y tanau glaswellt.

"Mae'n bwysig dangos pa anifeiliaid sy'n byw ar y mynyddoedd.

"Mae'r tywydd yn neis i'r rhan fwyaf o bobl.

"I ni yn y Gwasanaeth Tân, mae 'di bod yn broblem mawr.

"Ni 'di gweld cynnydd enfawr yn y nifer o danau glaswellt eleni."

Mae'r DU ar y trywydd tuag at y flwyddyn waethaf ar gofnod am danau gwyllt a byd natur yn talu'r pris.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.