'Tebyg i’r blaned Mawrth': Netflix yn ffilmio ym Môn
Fe gafodd pennod o un o gyfresi mwyaf poblogaidd Netflix ei ffilmio ar dirwedd ‘tebyg i’r blaned Mawrth’ ar Ynys Môn.
Y lleoliad ffilmio ar gyfer pennod arallfydol Black Mirror, o'r enw USS Callister: Into Infinity, oedd Mynydd Parys yn Amlwch.
Mae gan yr hen gloddfa gopr - y fwyaf yn y byd ar un adeg - dirwedd aml-liw sy’n cael ei disgrifio’n aml fel lleoliad o’r blaned Mawrth, ac yn cael ei chymharu ag Anialwch Painted Arizona.
Mae Mynydd Parys wedi bod yn gefndir i ffilmiau eraill yn y gorffennol hefyd, rhai efo themâu dystopaidd gan amlaf, fel Inbla, Long in the Tooth a Mortal Kombat: Annihilation.
Mae’r Deyrnas Gopr, sef yr amgueddfa sy’n olrhain hanes y mwynglawdd gopr, wedi dechrau ymgyrch i adeiladu cartref newydd a pharhaol ar y mynydd.
Mae cyn gartref yr amgueddfa ym Mhorth Amlwch wedi bod ar gau ers dros flwyddyn.
Llun: Netflix