Eisteddfod Genedlaethol: Cyhoeddi Cowbois Rhos Botwnnog ymhlith perfformwyr ar y maes
Mae Cowbois Rhos Botwnnog, Dafydd Iwan ac Elin Fflur ymhlith yr enwau fydd yn perfformio ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam eleni.
Mae'r Eisteddfod wedi cyhoeddi ail don o artistiaid a fydd yn perfformio ar lwyfannau'r maes yn ystod y brifwyl.
Ymhlith y prif artistiaid fydd yn ymddangos ar Lwyfan y Maes bydd Candelas, Dafydd Iwan, Elin Fflur ac Yws Gwynedd, tra bod artistiaid ifanc fel Buddug, Dadleoli, Taran a Tew Tew Tennau hefyd i’w gweld ar y prif lwyfan.
Bydd artistiaid lleol, gan gynnwys Daniel Lloyd a Mr Pinc a Talulah hefyd yn perfformio ar Lwyfan y Maes.
Cowbois Rhos Botwnnog a Pedair fydd dau o’r enwau mawr i’w gweld ar lwyfan y Tŷ Gwerin yn ystod yr ŵyl.
Mae Cowbois Rhos Botwnnog wedi dychwelyd i berfformio eleni ar ôl gohirio sioeau y llynedd, wedi i'r prif leisydd, Iwan Huws, gael ei daro’n wael wrth berfformio yng ngŵyl Sesiwn Fawr Dolgellau.
Fe fydd perfformiadau theatr stryd a dawns o amgylch y Maes eto eleni, tra bod Cabarela ymhlith yr uchafbwyntiau yn y Babell Lên.
Bydd y Babell Lên hefyd yn gartref i sgyrsiau a sesiynau trafod amrywiol, gan gynnwys sesiynau gyda Geraint Løvgreen, Gwynfor Dafydd, Manon Steffan Ros, Marged Tudur, Melanie Owen a Mererid Hopwood.
Bydd Ymryson y Beirdd yn ôl unwaith eto eleni, gyda Twm Morys a Gruffudd Antur wrth y llyw.
Roedd yr Eisteddfod eisoes wedi enwi Adwaith, Anweledig, Bwncath, Mared a Bob Delyn a'r Ebillion ymhlith y rhai a fydd yn perfformio yn Wrecsam fis Awst.
Meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses: “Mae’r amrywiaeth o artistiaid sy’n cael eu cyhoeddi heddiw fel rhan o’r ail don yn arbennig. Rydyn ni’n falch iawn o fod yn croesawu nifer o artistiaid ifanc a newydd i’r Maes yn Wrecsam eleni.
"Mae cynnig cyfleoedd i artistiaid newydd yn rhan bwysig o genadwri’r Eisteddfod er mwyn cryfhau pob elfen o’r celfyddydau yng Nghymru a chefnogi creu sin bywiog ac amrywiol ym mhob maes.
“Gydag ychydig dros 100 diwrnod i fynd, mae’r paratoadau’n mynd yn dda, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu pawb atom i Wrecsam am wythnos i’w chofio ym mis Awst eleni.”
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol 2025 ar gyrion dinas Wrecsam o 2-9 Awst.