Cadarnhad bod Modrić yn un o berchnogion clwb Abertawe
Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cadarnhau bod y seren bêl-droed Luka Modrić yn un o berchnogion newydd yr Elyrch.
Enillodd Modrić sy'n gapten Real Madrid a Croatia dlws y chwaraewr gorau yn y byd yn 2018, sef y Ballon d'Or.
Dywedodd y clwb: "Rydym wrth ein boddau bod enillydd y Balon d'Or, Luka Modrić wedi ymuno â'r clwb fel buddsoddwr a pherchennog ar y cyd.
"Bydd yn chwarae rôl flaenllaw yn cynorthwyo'r clwb i ddatblygu ar, ac oddi ar y cae."
Yn un o'r chwaraewyr gorau yn hanes Real Madrid, mae e wedi codi tlws Cynghrair y Pencampwyr chwe gwaith.
Mae e wedi chwarae dros ei wlad, Croatia yn fwy nag unrhyw chwaraewr arall sef 186 o gapiau.
Yn 39 oed, mae e wedi chwarae dros Real Madrid 45 o weithiau y tymor hwn gan sgorio pedair gôl.
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Luca Modrić: "Mae hwn yn gyfle cyffrous. Mae gan Abertawe bresenoldeb cryf, a chefnogwyr gwych
"Drwy chwarae ar y lefel uchaf, rydw i'n credu y gallaf ddod â fy mhrofiad i'r clwb. Fy nod yw helpu'r clwb i ffynnu mewn modd cadarnhaol, ac adeiladu dyfodol cyffrous."
Bydd yn ymuno ag Andy Coleman, Brett Cravatt, Nigel Morris a Jason Cohen fel perchnogion ar y cyd.
Cafodd y pedwar eu penodi fis Tachwedd y llynedd, wedi i Jason Levien a Steve Kaplan werthu eu cyfran o'r clwb.
Fe wnaeth y dyn busnes Andy Coleman addo "cyfnod newydd" wedi iddo gymryd yr awenau, gan ddweud mai ei freuddwyd oedd gweld Abertawe yn dychwelyd i Uwch Gynghrair Lloegr.
Mae Abertawe yn 12fed ar hyn o bryd yn y Bencampwriaeth, wyth pwynt o'r gemau ail-gyfle gyda phedair gêm yn weddill o'r tymor.
Does gan y clwb ddim rheolwr parhaol ar hyn o bryd, wedi i Luke Williams gael ei ddiswyddo ym mis Mawrth, ac Alan Sheehan yn rheolwr dros dro ers hynny.