
Gwynedd: Atgyweirio cartrefi gyda phroblemau insiwleiddio wedi degawd o frwydro
Wedi 10 mlynedd o frwydro, fe fydd degau o gartrefi yng Ngwynedd a wnaeth ddioddef gwaith insiwleiddio gwael dan gynllun Llywodraeth Cymru yn cael eu hatgyweirio.
Yn 2014/15 cafodd tai mewn pedwar o bentrefi yng Ngwynedd waith i'w gwneud yn fwy ynni-effeithlon fel rhan o gynllun 'Arbed' Llywodraeth Cymru.
Ond fe arweiniodd y gwaith at broblemau strwythurol mewn rhai tai, gyda dŵr yn gollwng a thyfiant gwyrdd dros dalcen y tai.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd £3.5m yn cael ei glustnodi i atgyweirio 42 eiddo yn ardal Arfon yn dilyn ‘proses adolygu y llynedd’.
Dan ofal Llywodraeth Cymru roedd y cynllun yn gyfle am ddim mewn ardaloedd difreintiedig i wneud tai yn fwy ynni-effeithlon.
Fe gafodd ffenestri a boeleri newydd eu gosod a waliau allanol eu paentio a'i selio i gynhesu'r tai.
Ond buan y daeth y trafferthion i'r amlwg a chwestiynau'n cael eu gofyn am safon y gwaith.

Un sydd wedi dioddef sgil effaith y gwaith ydi Margaret Roberts o Ddeiniolen.
“10 mlynedd yn ôl gafodd o’i wneud ond ar ôl blwyddyn oedd y gwallau yn dechrau dangos”, meddai.
“Oni’n meddwl mai jest wyneb y tŷ oedd a’r gwallau ond pan ddoth y surveor yma nath o son bod problemau rownd y landerau a’r ffenestri.
“Mae ‘di bod yn boen meddwl mawr iawn.
“Odda ni’n flin, mae’n gwylltio chi a ‘da chi jest methu cael neb i gymryd sylw”.
Mae Ms Roberts yn byw mewn un o 42 eiddo yn Arfon sydd, yn ôl Llywodraeth Cymru, wedi derbyn llythyr yn cadarnhau y bydd gwaith adfer yn digwydd wedi adolygiad gan Lywodraeth Cymru.
Yn ôl y llythyr gan Lywodraeth Cymru bydd y gwaith yn dechrau’n fuan i adfer y tai gafodd eu heffeithio.
“O’r diwedd... da ni’n hapus bod rhywbeth yn cael ei wneud oherwydd ma’n rhoi chi lawr pan da chi’n gweld safon y tŷ tu allan.
“Da ni wedi gwirioni i ddeud y gwir”!

Yn ôl Sian Gwenllian, A.S. Plaid Cymru sy’n cynrychioli etholaeth Arfon yn Senedd, er yn rhyddhad mae pryderon dros yr oedi.
“Mae’n rhyddhad mawr i’r trigolion a da ni wedi cwffio hefo’n gilydd dros gyfnod hir... llawer rhy hir.
“Roedd pobl wedi rhoi eu ffydd yn y cynllun hwn, cynllun gafodd ei gynnig gan y llywodraeth oedd fod i wella eu tai nhw ond [daeth] bob math o broblemau oherwydd gwaith diffygiol.
“Ond rŵan mae golau ar ddiwedd y twnnel felly gobeithio rŵan y bydd y gwaith yn cael ei ailneud”.
Mewn ymateb fe ddywedodd Llywodraeth Cymru eu bod bellach wedi “dyrannu £3.5m dros y tair blynedd nesaf ar gyfer waith adfer 42 eiddo yn Arfon lle mae inswleiddio waliau allanol wedi methu yn dilyn proses adolygu y llynedd”.
“Mae trigolion wedi derbyn llythyrau gyda rhagor o wybodaeth am y broses a bydd cyfle hefyd i aelwydydd optio allan os nad ydynt am i’r gwaith gael ei wneud mwyach”.
Mae disgwyl i’r gwaith gael ei gwblhau dros y blynyddoedd nesaf yn ddibynnol ar y tywydd gan bod angen i’r waliau sychu yn llawn.