Abertridwr: Pedwar yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio bachgen 17 oed
Mae pedwar o bobl wedi ymddangos mewn llys fore Mawrth ar gyhuddiad o lofruddio bachgen 17 oed yn Abertridwr, Sir Caerffili.
Fe ymddangosodd Ricardo Elliot, 26, Connor Palfrey, 24, Elexi Manny, 24 a Georgie Mears, 18, yn Llys y Goron Casnewydd drwy gyswllt fideo.
Mae’r pedwar ohonynt wedi eu cyhuddo o lofruddio Tristan Shae Kerr a fu farw mewn tŷ yn y pentref ar 5 Chwefror.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r safle tua 17.45 yn dilyn adroddiadau fod bachgen yn ei arddegau wedi cael anafiadau difrifol.
Mae disgwyl i’r achos llys gael ei gynnal ar 3 Awst, yn ôl y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke.
Fe fydd Ricardo Elliot o Lundain, Connor Palfrey o Abertridwr, Elexi Manny o Senghenydd, a Georgie Mears, sydd heb gyfeiriad sefydlog, yn cael eu cadw yn y ddalfa .
Dydyn nhw ddim wedi cyflwyno ple.