Rhyddhau dyn ar fechnïaeth wedi marwolaeth dyn 85 oed yn Sir Benfro
Mae dyn wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth yn dilyn marwolaeth dyn 85 oed yn Sir Benfro yr wythnos diwethaf.
Cafodd Heddlu Dyfed-Powys wybod am farwolaeth “sydyn” dyn oedrannus mewn tŷ ar Ffordd Hawkstone, Doc Penfro am tua 13.30 brynhawn Gwener.
Dywedodd y llu bod dyn yn ei 40au wedi cael ei arestio.
Mewn diweddariad ddydd Mawrth, fe ddywedodd y llu bod yr ymchwiliad yn parhau a bod teulu'r dyn 85 oed yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Mae'r dyn a gafodd ei arestio wedi ei ryddhau ar fechnïaeth amodol tra bod ymholiadau'r heddlu yn parhau.
Dywedodd y llu y bydd trigolion yn parhau i weld yr heddlu yn yr ardal wrth i'r ymchwiliad barhau.