
Dyn ifanc yn cwblhau marathon ddwy flynedd wedi damwain ddifrifol
"Ar ôl i fi fod mewn coma doeddwn i ddim yn gallu cerdded 10 cam, nawr dwi wedi cwblhau marathon."
Lai na dwy flynedd yn ôl, newidiodd bywyd Ethan Brown o Abertawe mewn eiliad wedi iddo fod mewn damwain car difrifol.
Bu'n rhaid ei dorri allan o'i gar Ford Fiesta gan weithwyr Ambiwlans Awyr Cymru wedi i blismon oedd ddim yn gweithio, ei ddarganfod.
Cafodd ei roi mewn coma a dywedodd y doctoriaid wrth ei fam bod gobaith o "30% yn unig" y byddai'n goroesi.
"Dydw i ddim yn cofio unrhyw beth o'r ddamwain heblaw codi yn yr ysbyty ar ôl bod mewn coma am bythefnos," meddai'r dyn 24 oed wrth Newyddion S4C.
"Dywedodd y doctoriaid wrth fy mam bod siawns o 30% yn unig y byddwn yn goroesi.
"Doeddwn i ddim yn ymwybodol o unrhyw beth oedd yn digwydd, ond allai ddychmygu bod hynny'n dorcalonnus iddi glywed."
Bu'n rhaid i Ethan Brown dreulio misoedd yn dysgu sut i gerdded eto wedi'r gwrthdrawiad ar yr A470 ger Aberhonddu, ym Mhowys .
Cafodd sawl anaf, yn cynnwys gwaedu a chleisiau ar yr ymennydd, roedd ei ysgyfaint wedi cwympo, roedd twll yn ei goluddyn a chleisiau i'w galon. Roedd hefyd wedi torri ei droed chwith a'i drwyn.
'Blynyddoedd ofnadwy'
Cyn y ddamwain ym mis Mehefin 2022 roedd Ethan yn chwaraewr pêl-droed brwd ac yn gwneud jiu-jitsu a MMA, mathau o chwaraeon ymladd.
Gadawodd yr ysbyty fis yn ddiweddarach, ond nid oedd yn gallu cerdded yn iawn am ddeufis ac roedd ar dabledi gwrthiselder (antidepressants.)
"Byddwn i ddim eisiau i unrhyw un ddioddef yr hyn dwi wedi, achos mae'r problemau iechyd meddwl a iechyd corfforol wedi bod yn ofnadwy.
"Mae wedi bod mor anodd, achos yr holl lawdriniaethau, doedd gen i ddim cryfder o gwbl, roedd hynny'n fy nigalonni.
"Roeddwn i ar dabledi gwrthiselder achos doeddwn i ddim yn gallu dychwelyd i'r holl chwaraeon, doeddwn i ddim yn sylwi faint o gymorth oedd hynny i fy iechyd meddwl."

Ddydd Sul cwblhaodd Marathon Casnewydd mewn 3 awr 42 munud.
Roedd hefyd yn codi arian i elusen iechyd meddwl Mind Cymru ac i'r Ambiwlans Awyr.
Wrth groesi'r llinell dywedodd mai dyna oedd y tro cyntaf iddo deimlo'n falch o'i hun ers y ddamwain ddifrifol bron i ddwy flynedd ynghynt.
"Ers y ddamwain dwi wedi cymharu fy hun gyda'r hen Ethan Brown oherwydd roedd e yn ddawnus yn y byd chwaraeon.
"Dydw i ddim wedi gallu teimlo'n falch o'n hun ers y ddamwain, ond cwblhau'r marathon oedd y tro cyntaf i fi wir deimlo'n falch o'n hun ers hynny.
"Roedd fy mam yn dweud bod adeg lle doeddwn i ddim yn gallu cerdded 10 llath.
"Ond wedyn roedd hynny wedi datblygu i gerdded lawr y stryd, ac yna rhedeg lawr y stryd, a gwella a gwella.
"Ac i weld lle dwi wedi cyrraedd nawr, rhedeg marathon, mae'n eithaf anodd credu'r peth."