Newyddion S4C

Ymgyrchydd o Bort Talbot yn ddieuog ar ôl chwarae cerddoriaeth yn San Steffan

14/04/2025
Steve Bray

Mae ymgyrchydd o Bort Talbot sy'n cael ei adnabod fel y Stop Brexit Man yn Llundain, wedi ei gael yn ddieuog ar ôl iddo gael ei arestio am chwarae cerddoriaeth y tu allan i San Steffan.

Roedd yn chwarae'r gerddoriaeth er mwyn dangos ei fod yn gwrthwynebu'r Ceidwadwyr a Brexit.

Roedd Steve Bray, sy'n 56 oed wedi gwadu honiadau iddo anwybyddu gwaharddiad sain gan yr heddlu fis Mawrth y llynedd, drwy osod chwyddleisydd (amplifier) y tu allan i Dŷ'r Cyffredin yn Llundain.  

Plediodd yn ddieuog i fethu â chydymffurfio â chyfarwyddyd o dan ddeddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011.  

Wedi'r dyfarniad yn Llys Ynadon Westminster ddydd Llun, edrychodd y diffynnydd ar ei gefnogwyr yn y galeri cyhoeddus.

Roedd Mr Bray yn chwarae cerddoriaeth ar 20 Mawrth y llynedd, cyn i'r prif weinidog ar y pryd Rishi Sunak gyrraedd ar gyfer Sesiwn Holi'r Prif Weinidog.  

Cyn ei arestio, clywodd y llys i'r heddlu fynd at Mr Bray tua 11.20am, funudau cyn i Mr Sunak gyrraedd San Steffan. Fe wnaethon nhw roi map iddo a rhybudd ysgrifenedig yn nodi fod cerddoriaeth wedi ei gwahardd drwy chwyddleisydd (amplifier) yn yr ardal honno.

Parhaodd Steve Bray i chwarae ei gerddoriaeth, ac ychydig cyn 12.33pm fe gymerodd y plismyn y chwyddleisydd. 

Roedd Mr Bray yn amddiffyn ei hun yn yr achos yn ei erbyn, a dywedodd mewn gwrandawiad blaenorol fod ganddo hawliau: "Rydw i'n dal i wneud yr hyn yr ydw i wastad wedi ei wneud." 

"Mae gennym sawl cân sy'n berthnasol i'n protest," meddai.  

"Dyden ni ddim yn eu chwarae'n uchel iawn gydol y dydd. Mae'n rhan o'n hawl sylfaenol i brotestio."

'Hen draddodiad'

Wrth gyhoeddi ei ddyfarniad ddydd Llun, dywedodd y barnwr Anthony Woodcock wrth gyfeirio at Mr Bray: “Mae e wedi cyfaddef ei fod yn gwrthwynebu'r Torïaid, sef ei eiriau e. 

“Mae e'n credu fod ganddo neges bwysig. Mae e angen y sain er mwyn lledaenu ei neges ar hyd San Steffan.”

Ychwanegodd y Barnwr Woodcock: “Mae e wedi treulio oriau lawer yn ymgyrchu a chafodd e erioed ei arestio yn flaenorol. Mae ei berthynas â'r heddlu yn dda ar y cyfan.

“Mae targedu'r llywodraeth mewn modd dychanol yn hen draddodiad,” dywedodd.

Wrth gyfeirio at y digwyddiad ar 20 Mawrth, dywedodd y Barnwr fod hon yn "brotest heddychlon, nad oedd erioed yn dreisgar.”

Mae'r Cymro yn adnabyddus am chwarae cerddoriaeth tra'n protestio yn erbyn polisïau San Steffan. 

Fe chwaraeodd y gân Things Can Only Get Better wrth gatiau Downing Street pan gyhoeddodd Rishi Sunak ei fod yn galw Etholiad Cyffredinol yn ystod glaw trwm fis Mai diwethaf. 

Wrth siarad y tu allan i'r llys wedi'r dyfarniad ddydd Llun, dywedodd Steve Bray: “Mae heddiw yn ddiwrnod pwysig, nid yn unig ar ein cyfer ni fel protestwyr, ond ar gyfer rhyddid barn a'r hawl i brotestio. 

 “Pa bynnag ochr rydych chi yn ei chynrychioli, be bynnag yw'ch protest, mae hon yn fuddugoliaeth i chi.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.