Newyddion S4C

Cymharu Port Talbot â Scunthorpe 'ddim yn hollol deg'

14/04/2025
Scunthorpe ac Andy Prendergast

Dyw cymharu sefyllfa gwaith dur Port Talbot â Scunthorpe "ddim yn hollol deg" yn ôl arweinydd un undeb llafur.

Dywedodd ysgrifennydd cenedlaethol y GMB, Andy Prendergast, bod llywodraeth flaenorol y DU wedi "cysgu wrth y llyw" wrth edrych ar y diwydiant dur.

Ychanegodd fod y Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn fodlon gweithredu i gadw ffwrnais Scunthorpe i fynd.

Daw ei sylwadau ar ôl i aelodau Tŷ’r Cyffredin gwrdd ddydd Sadwrn a phleidleisio i achub safle British Steel yn y dref yn Sir Lincoln.

Dyma’r tro cyntaf ers 1982 i ASau gael eu galw nôl ar ddydd Sadwrn. 

Fe gytunodd ASau i roi pwerau newydd i'r Ysgrifennydd Busnes, Jonathan Reynolds, i reoli'r gwaith dur yn Lloegr.

Bydd y pwerau yma yn caniatáu i’r llywodraeth "gymryd rheolaeth" o’r safle yn Sir Lincoln ac atal ei berchennog, cwmni Jingye o Tsieina, rhag cau ei ffwrneisi chwyth.

Fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts, feirniadu'r penderfyniad, gan holi pam nad oedd yr un camau wedi eu cymryd yn Port Talbot.

Ond dywedodd Mr Reynolds wrth Dŷ’r Cyffredin nad yw ffwrneisi chwyth Port Talbot "ar gael i’w hachub" ar ôl iddyn nhw gau fis Medi diwethaf.

Mae'r llywodraeth bellach wedi cefnogi cynlluniau cwmni Tata i adeiladu ffwrnais arc trydan gwerth £1.25 biliwn yn ei waith dur ym Mhort Talbot.

'Sefyllfa wahanol'

Pan ofynnwyd iddo a oedd yn "annheg" i’r llywodraeth gymryd rheolaeth o’r gwaith yn Scunthorpe ond nid ym Mhort Talbot, dywedodd Mr Prendergast: "Yr anhawster yw nad yw’n gymhariaeth hollol deg yn bennaf ar sail bod y mwyafrif o bethau a ddigwyddodd ym Mhort Talbot o dan y llywodraeth flaenorol.

"A dweud y gwir, pan ddaeth hi at y strategaeth ddiwydiannol, roedden nhw’n cysgu wrth y llyw.

"Wyddoch chi, pan edrychwch ar ddur yn benodol, fe wnaethon nhw oruchwylio ein diwydiant dur yn crebachu i hanner ei faint.

"Rwy’n meddwl bod y camau sy’n cael eu cymryd ym Mhort Talbot yn hwyr ond yn cael eu croesawu gan y llywodraeth bresennol.

"Ond rwy’n meddwl ei fod yn dipyn bach o gymhariaeth annheg."

Fe aeth ymlaen i ddweud: "Hon oedd ein ffwrnais chwyth olaf, roedd hi’n sefyllfa wahanol, ac mae gennym ni lywodraeth wahanol wrth y llyw.

"Ac rydyn ni’n ddiolchgar bod gennym ni un sy’n fodlon mynd amdani a gwneud rhywbeth oedd yn arbennig o brin o dan y llywodraeth ddiwethaf."

Beirniadaeth

Ddydd Sadwrn, fe wnaeth Lis Saville-Roberts AS o Blaid Cymru holi ASau pam nad oedd y llywodraeth wedi gweithredu yn achos Port Talbot.

"Lle’r oedd y llywodraeth hon pan oedd y ffwrneisi chwyth olaf ym Mhort Talbot yn cau gan golli 2800 o swyddi?" gofynnodd.

"Roedd Plaid Cymru yn dadlau am yr un rhesymau yn union, sy’n cael eu dweud yn yr achos yma, am wladoli Tata.

"Ond dywedodd y llywodraeth bryd hynny mai breuddwyd gwrach oedd achub y swyddi ym Mhort Talbot. 

"Sut mae Llafur yn mynd i ddal eu pennau i fyny rŵan yn ne Cymru a dweud, ‘oedd, roedd yn werth ei wneud ar gyfer pobl Scunthorpe’?

"Ond pan ddigwyddodd ym Mhort Talbot, nid oedd y swyddi rheini yn cyfri."

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd wedi beirniadu'r llywodraeth am beidio ag ymyrryd i amddiffyn gwaith dur Port Talbot.

Dywedodd David Chadwick, llefarydd ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn San Steffan: "Ble'r oedd y raddfa hon o weithredu pan gyhoeddwyd bod miloedd o swyddi’n cael eu colli ym Mhort Talbot ychydig fisoedd yn ôl?

"Er bod camau i achub swyddi yn Scunthorpe i’w croesawu, pam bod y Llywodraeth Lafur hon wedi penderfynu bod cymunedau yn Lloegr yn werth ymladd drostynt a’r rhai yng Nghymru ddim?"

Wrth ymateb i'r pwerau newydd, dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd Economi, Ynni a Chynllunio Llywodraeth Cymru, ei bod yn cydnabod bod "angen i Lywodraeth y DU weithredu".

"Mae’r newid i ffwrnais arc trydan ym Mhort Talbot yn adeiladu pont i ddyfodol mwy cynaliadwy i’r cwmni," meddai.

"Rydym am i’n sector dur yng Nghymru ffynnu ac mae’r trawsnewid sy’n digwydd ym Mhort Talbot yn darparu llwybr clir a phendant ar gyfer y dyfodol."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.