
Cyhuddo'r AS Ceidwadol Russell George o droseddau gamblo
Mae’r aelod Ceidwadol o Senedd Cymru, Russell George, a'r cyn Aelod Seneddol Ceidwadol Craig Williams, ymysg 15 o bobl sydd wedi’u cyhuddo o droseddau gamblo yn dilyn ymchwiliad i fetio ar amseriad Etholiad Cyffredinol 2024, meddai’r Comisiwn Hapchwarae.
Roedd yr ymchwiliad, a gychwynnwyd ym mis Mehefin 2024, yn canolbwyntio ar unigolion oedd dan amheuaeth o fod wedi defnyddio gwybodaeth gyfrinachol - yn benodol gwybodaeth ymlaen llaw am ddyddiad arfaethedig yr etholiad - i ennill mantais annheg mewn marchnadoedd betio.
Mae'r fath gam yn drosedd o dan Adran 42 o Ddeddf Hapchwarae 2005.
Ymysg y 15 sydd wedi eu cyhuddo mae Thomas James, 38 oed, o Aberhonddu. Mae'n gyfarwyddwr y Ceidwadwyr Cymreig.
Yn dilyn y newyddion, dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar AS: “Ar ôl cael gwybod bod Russell George AS wedi’i gyhuddo o droseddau’n ymwneud â gamblo, rwyf wedi penderfynu ei wahardd o Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd.
“Mae’r cam yn weithred niwtral tra’n aros am ganlyniad y broses gyfiawnder.
"Ni fydd sylw pellach ar hyn o bryd.”

Y 15 sydd wedi eu cyhuddo yw:
- Simon Chatfield, 51 oed, Lower Bourne, Farnham
- Russell George, 50 oed, o'r Drenewydd
- Amy Hind, 34 oed, o Loughton, Essex
- Anthony Hind, 36 oed, o Loughton, Essex
- Jeremy Hunt, 55 oed, o Horne, Horley
- Thomas James, 38 oed, o Aberhonddu
- Charlotte Lang, 36 oed, o Brixton
- Anthony Lee, 47 oed, o Fryste
- Iain Makepeace, 47 oed, o Newcastle Upon Tyne
- Nick Mason, 51 oed, o Milton on Stour, Gillingham
- Paul Place, 53 oed, o Hammersmith, Llundain
- Laura Saunders, 37 oed, o Fryste
- James Ward, 40 oed, o Lundain
- Craig Williams, 39 oed, o Lanfair Caereinion
- Jacob Willmer, 39 oed, o Richmond
Fe fydd y 15 sydd wedi eu cyhuddo yn ymddangos yn Llys Ynadon Westminster ar 13 Mehefin.