Newyddion S4C

'Anrhydedd': Y golffiwr Rory McIlroy yn ennill y Gamp Lawn

14/04/2025
Rory McIlroy

Mae'r golffiwr o Ogledd Iwerddon, Rory McIlroy, wedi ennill y Gamp Lawn yn ei yrfa gyda'i fuddugoliaeth yn nhwrnamaint Meistri'r UDA. 

Dyma oedd y twrnamaint mawr olaf oedd angen i McIlroy, 35, ei ennill i sicrhau Camp Lawn dim ond pump arall sydd wedi llwyddo i wneud hynny o'i flaen.

Roedd McIlroy, a oedd yn gwneud ei 11eg ymgais i gwblhau'r Gamp Lawn, yn wynebu Justin Rose o Loegr yn y twrnamaint yn Georgia.

Cipiodd y Gwyddel y wobr ar ôl i'r pâr orffen gyda sgôr o 11-dan 277 yn y twrnamaint ddydd Sul.

Yn ogystal â siaced werdd, bydd yn derbyn gwobr ariannol o $4.2 miliwn (tua £3.6 miliwn).

'Anodd bod yn amyneddgar'

Wrth siarad mewn cynhadledd i’r wasg ar ôl ei fuddugoliaeth, dywedodd McIlroy: "Rhaid i chi fod yr optimist tragwyddol yn y gêm hon.

"Dw i wedi bod dweud hyn nes fy mod i’n las yn fy wyneb, ond dw i wir yn credu fy mod i’n chwaraewr gwell rŵan nag oeddwn i 10 mlynedd yn ôl.

"Mae'n anodd iawn bod yn amyneddgar, dal i ddod yn ôl a methu â chyflawni."

Ychwanegodd: "Dyma fy 17eg tro yma a nes i ddechrau meddwl tybed a fyddai'r amser byth yn dod i mi.

"Mae’n anrhydedd a phleser llwyr a dw i mor falch o allu galw fy hun yn bencampwr Meistri'r UDA."

Dim ond pum golffiwr arall sydd wedi llwyddo i gwblhau Camp Lawn gyrfa - Tiger Woods, Jack Nicklaus, Gary Player, Ben Hogan a Gene Sarazen.

Mae McIlroy wedi ennill Pencampwriaeth y PGA ddwywaith, gan gipio'r wobr yn 2012 a 2014.

Enillodd ei wobr fawr cyntaf ym Mhencampwriaeth Agored yr UDA yn 2011, ac enillodd y Bencampwriaeth Agored yn 2014.

Llun: Kyodo / Reuters


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.